Neidio i'r prif gynnwys

Bwyd Yr Ŵyl Yng Nghaerdydd

3 Tachwedd 2022

Trefnu parti nadoligaidd i deulu neu ffrindiau? Ers i ni golli allan ar ddathlu tymor y Nadolig y llynedd, gadewch i ni wneud ddwywaith cymaint o atgofion i wneud yn iawn amdano!

Mae bwyd blasus yn rhan enfawr o gyfnod y Nadolig ac rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddewis lleoliad, a sicrhau nad ydynt yn llawn! Mae Croeso Caerdydd wedi’ch arbed rhag gwneud y gwaith ymchwilio i’r bwytai ac wedi casglu at ei gilydd arlwy o gynigion arbennig y Nadolig a aiff â chi o frecwast, i ginio, ac i swper. Mae canllaw isod sy’n cynnwys rhai o’r bargeinion bwyd a diod gorau yn y ddinas, felly archebwch fyrddau i chi a’ch anwyliaid!

Mae’r Nadolig yn ymwneud â llawenydd, chwerthin a digon o hwyl. Mae’n dddathliad o ffrindiau a theulu yn dod at ei gilydd ac yma yn Café Rouge mae gennym y pecyn perffaith i rannu pryd Nadolig arbennig.

Y tymor hwn rydym i gyd yn dathlu llawenydd y Nadolig ac os ydych yn drefnus ac yn archebu’n gynnar (cyn 30 Medi) bydd ein cynorthwywyr Nadolig yn eich trin i wydraid am ddim o Prosecco wrth gyrraedd* Telerau ac Amodau’n berthnasol.

Mae gennym fwydlen dau gwrs blasus am £18.95 neu am £3 ychwanegol gallwch ei wneud yn dri, sy’n cynnwys yr holl ffefrynnau Nadoligaidd hynny gyda naws Ffrengig.

*Yn gymwys ar archebion ar gyfer 2+, wedi’i archebu cyn 30 Medi. Bwydlen Nadoligaidd ar gael o 17 Tachwedd i 3 Ionawr. Ddim ar gael ar ddydd Iau-Dydd Sul ym mis Rhagfyr). Archebwch ar-lein yma.

PEIS DOLIG DIHAFAL

Mae peis Nadolig enwog Pieminister yn dychwelyd y Nadolig hwn.

  • Mistlemoo – stêc cig eidion Prydeinig, bacwn a phort
  • Cracker – Twrci maes Prydeinig, ham, llugaeron, pannas a sieri
  • Deer Santa – Cig carw Gwyllt Prydain, bacwn, gwin coch a ffacbys
  • Christingle (ll) – Pannas, cnau castan, Cheddar a chennin
  • Good Elf (ll/f) – ‘Twrci’ figan, llugaeron, port a theim

Mwynhewch bei nadoligaidd gyda stwnsh neu gwnewch wledd lawn ohoni gydag ychwanegion: creision pannas, ffon stwffin, stwnsh moron a rwdan a grefi Nadoligaidd. Nid yn unig hyn, maen nhw’n gwneud y Nadolig yn fwy llawen eleni gyda phrosecco a pheintiau di-waelod. Ie, go iawn!

Mae Pieminister yn gweini gwledd Nadoligaidd 2 gwrs gyda 2 awr o ddiodydd di-waelod am £40 yn unig. Os nad yw hynny’n eich gadael chi’n teimlo’n llon, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn ysgafnach, mynnwch wledd Nadoligaidd 1 cwrs ar ei phen ei hun o £13. Maen nhw’n cymryd archebion nawr ar gyfer canol mis Tachwedd ymlaen, felly ewch archebwch nawr. Cadwch le yma.

Mae ein bwydlen Nadolig yn ôl, ac i wneud yn iawn am amser a gollwyd, mae’n fwy nag erioed.

Fel bob amser, mae ganddyn nhw fwydlen set hollol figan hefyd, felly beth bynnag ydych chi ar ôl y Nadolig hwn, mae Pho wedi rhoi sylw i chi.

Gallwch gael dau gwrs am £17.50 neu dri chwrs am £22.50.

Bydd bwydlenni’r Nadolig ar gael o ddydd Llun 29 Tachwedd – Noswyl Nadolig a gallwch archebu nawr. P’un a ydych am gael cinio Nadolig swyddfa gyda gwahaniaeth, neu ginio sy’n chwalu’r penmaenmawr gyda’ch ffrindiau, mae rhywbeth i bawb ar eu bwydlenni Nadolig. Archebwch eich bwrdd nawr.

Gyda’ch holl ffefrynnau Lladin, ychydig o glasuron Nadoligaidd ac awr lawen drwy’r dydd bob dydd*, Las Iguanas yw’r lle perffaith ar gyfer eich dathliad.

Y Fwydlen

Mae pob diwrnod yn ddathliad yn Las Iguanas, yn enwedig y Nadolig fydd wedi’i goginio o’r newydd gan ein cogyddion medrus.

Byddwch fentrus a chanfod rhywle mwy cyffrous y ‘Dolig hwn gyda gwledd o America Ladin yn llawn blas. Mae rhywbeth ar y fwydlen i bawb, felly os nad ydych chi’n un am sbeis, mae hynny’n iawn hefyd.

Mwynhewch 2 neu 3 chwrs blasus Nadoligaidd o ddim ond £21.95*!

Brecinio Diddiwedd

Os taw’r cyfan rydych chi ei eisiau dros y Nadolig yw brecinio, waeth i chi gael un diddiwedd! Dathlwch y mis Rhagfyr hwn gyda steil. Dewiswch gwrs cyntaf a phrif gwrs gyda phrosecco neu gwrw di-ben-draw. Uwchraddiwch i ychwanegu dewis o goctels am £5 y pen.

DYDD SUL-DYDD GWENER 11AM-5PM (archeb olaf 3.30pm)

DYDD SADWRN 11AM-3PM (archeb olaf 1.30pm)

Slotiau 90 munud drwy archebu’n unig. Dewch o hyd iddo yn adran ‘Cinio’ y ffurflen archebu.

O £29.95 Y PEN

Archebwch ar-lein yma.

Mae digon o le yn y Dafarn y Nadolig hwn! Mae’r Pontcanna Inn yn barod i gynnal eich parti Nadolig y tymor Nadolig hwn.

Dylai’r Nadolig bob amser fod yr adeg fwyaf bendigedig o’r flwyddyn, eleni yn fwy nag erioed ers i ni fethu â dathlu yn 2020, felly rydym yn ychwanegu dos ychwanegol o hwyl ar gyfer 2021!

P’un a yw’n wledd gyda’ch teulu, yn dal i fyny gyda ffrindiau, neu’n barti swyddfa haeddiannol, gadewch i ni wneud y gwaith caled fel y gallwch dreulio’ch amser yn mynd i ysbryd y Nadolig! O ginio rhost clasurol â’r holl drimins, i fwyd llysieuol fydd yn eich cynhesu, mae rhywbeth at ddant pawb! Archebwch ar-lein yma.

Mae’r Alchemist yn dathlu’r Nadolig drwy fynd â ni’n ôl i glam rock y gorffennol. Yn cyflwyno eu bwydlen Nadolig ‘All That Glitters’. Mwynhewch sglein oes a fu, yn llawn bwyd a diodydd i’ch sbwylio’n rhacs! Pâr o goctels tymhorol gyda bwydlen 2 gwrs am £30. Neu beth am 3 chwrs am £35.

Pâr da yw eu Biscoffee Martini (meddyliwch espresso martini gyda blas Biscoff) a’r Twrci Llaeth Menyn mewn Basged, wedi’i weini â bon bon stwffin porc, colslo Nadoligaidd a sglodion tenau. Chwiliwch ‘Alchemist Christmas’ i weld y fwydlen ac archebu lle. Archebwch ar-lein yma.

Does dim byd tebyg i’r Nadolig yn The Chapel. Wrth i chi gerdded i fyny’r grisiau mae’r hud yn dechrau. Eisteddwch o dan ein siandeliers mawreddog yn y lleoliad gothig hwn ac ymlaciwch i mewn i’r adeg fwyaf bendigedig o’r flwyddyn.

Gan ein bod yn ddigon anffodus i beidio â dathlu gyda chi y llynedd, rydym yn ychwanegu dos ychwanegol o hwyl ar gyfer 2021!

P’un a yw’n wledd gyda’ch teulu, yn dal i fyny gyda ffrindiau, neu’n barti swyddfa haeddiannol, gadewch i ni wneud y gwaith caled fel y gallwch dreulio’ch amser yn mynd i ysbryd y Nadolig! O ginio rhost clasurol â’r holl drimins, i fwyd llysieuol fydd yn eich cynhesu, mae rhywbeth at ddant pawb! Archebwch ar-lein yma.

Pioneering Sri Lankan street food restaurant group The Coconut Tree will be giving the traditional Christmas Dinner a south Asian twist this winter. The independent boutique operators are front-runners in bringing fresh Sri Lankan dishes to the UK, coupled with a laid-back, convivial atmosphere.

Whether it’s Sri-Lankan-style Split Sprouts with Cashews (£6) or the brand new spiced Turkey Baubles with a tangy cranberry dipping sauce (£6) – the island-inspired festive dishes are sure to warm the cockles on a cold winter’s day. For further information and to view menus, click here.

Celebrate the festive season the Bella Italia way! Our delicious Italian-inspired Christmas menus and seasonal specials have everything you need to plan the perfect Christmas party.

Tuck into two tasty courses for £17.99 per person or add a third course from an extra £2 per person to get those festive tastebuds tingling! Even better – Christmas parties of 6 or more, booked before 18th October, entitles each member of the group to a FREE glass of prosecco with their meal, the more the merrier at Bella Italia this Christmas! For more information on Christmas at Bella Italia, click here.

Yn ogystal â’i atyniadau ffair poblogaidd, bydd Lawntiau Neuadd y Ddinas yn cynnwys dau far anhygoel yn 2021 – gyda Bar Sur La Piste newydd a gwell gyda theras to a hyd yn oed Bar Iâ newydd sbon! Bydd ymwelwyr yn gallu ymlacio a dadgynhesu mewn tymheredd -10 gradd a thynnu hunluniau ym man Instagram mwyaf poblogaidd a newydd Caerdydd. Cŵl ’ta be?

Ewch i rwysg Nadolig i’w gofio yn Y Parkgate, gwesty moethus newydd gorau Caerdydd, sy’n rhan o’r Casgliad Celtaidd unigryw. Mwynhewch yr awyrgylch steilus a’r amgylchoedd mawreddog ar gyfer bwybwyd a diod blasus a dawnsio yn ein partïon Nadolig, neu dathlwch mewn steil gydag arhosiad moethus a bwyd nadoligaidd gwych drwy gydol mis Rhagfyr.

O noson gain  ynghyd â ffrindiau i’r cinio Dydd Nadolig mwyaf trawiadol, ymunwch â ni yng Ngwesty Parkgate ar gyfer moethusrwydd Nadolig yng nghanol y ddinas. Dysgwch fwy yma.

Ers dros 350 o flynyddoedd, mae Gwesty’r Angel wedi bod yn safle partïo a hwyl, a dyma’ch cyfle i fod yn rhan ohono. Ar ôl blwyddyn mor hir, mae angen tipyn o ddathliad ar bob un!

Yn cynnig nosweithiau parti Nadoligaidd eiconig yr Angel o ddim ond £39.50 y pen ynghyd â chinio Nadoligaidd a the prynhawn Nadoligaidd. Yn arlwyo i rhwng dau i 250 o westeion, ynghyd â chinio Dydd Nadolig a Chinio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, dim ond un lle sydd i ddathlu eich rhyddid nadoligaidd.

Fel arall, beth am logi eich tafarn eich hun ar gyfer opsiwn parti mwy anffurfiol yn y Castle Arms Tavern neu ein bar difyr The Chambers gyferbyn â’r Castell?

Ewch i www.angelhotelcardiffcity.co.uk/christmas ffoniwch 029 2064 9200, neu e-bostiwch events@angelhotelcardiffcity.co.uk.

Mae Gwesty’r Fro’n cynnig ystod gyflawn o nosweithiau parti Nadolig sy’n addas ar gyfer pob cyllideb a chwaeth, gan gynnwys Partïon Nadolig, Nosweithiau Parti Nôl i’r Dyfodol, Nosweithiau Parti Cyfan lle mae eich holl fwyd a diod wedi’u cynnwys, Nosweithiau Soul Big Mac a’r ‘Gin’gle Bell Ball yng Nghastell Hensol, yn ogystal â’n Cinio Sul Teuluol – y ffordd berffaith o fwynhau’r Nadolig yn gwbl ddi-straen.

Partïon yn dechrau o £43 y pen I gael gwybod mwy ewch i.

Mae tymor y parti Nadolig yn prysur agosáu ac mae’n bryd dechrau gwneud eich cynlluniau Nadoligaidd. Ar gyfer parti Nadolig gwirioneddol fythgofiadwy, dewiswch Future Inns. Wedi’i leoli yng nghanol Bae Caerdydd, rydym yn falch iawn o gynnig nosweithiau parti Nadolig, bwyd blasus ac adloniant Nadoligaidd drwy gydol y tymor.

Mwynhewch ddathliad Nadolig di-drafferth a dibynnwch ar ein tîm i ofalu am yr holl fanylion pwysig a fydd yn sicrhau digwyddiad Nadolig gwych. Edrychwch ar ein rhestr pecynnau partïon Nadolig isod. O Bartïon NadoligCinio Nadolig, Cinio gyda Siôn Corn, Cinio Dydd Nadolig i Ddathliadau Nos Galan, byddwn yn siŵr o wneud i chi fwynhau. Plws pecynnau gwesty er mwyn i chi allu aros y nos, a pharhau â’r ŵyl yn ninas Caerdydd. Archebwch yma.

Yn yr Hilton rydym wedi adeiladu enw da am allu taflu parti gwych. Gadewch inni ofalu am bopeth o’r gwaith paratoi i’r pethau bach sy’n ei wneud yn arbennig iawn. Rydym yn arbenigwyr ar ddod â’r cyfan at ei gilydd, fel y gallwch ymlacio a mwynhau.

Nosweithiau Parti – Bwydlen 3 chwrs ar gael: 4 a 23 Rhagfyr – £45.000 a 10, 11, 17 a 18 Rhagfyr – £49.50.

Arbed yn Ionawr – Bwydlen 3 chwrs yn dechrau o £32. Beth am barti fydd yn para tan 2022. Cysylltwch â’r tîm Archebu yma Events.cardiff@hilton.com.

Bwyty Grey -Bwydlen Nadoligaidd Bwydlen dymhorol 3 chwrs £30 y pen

Brecinio Diddiwedd Enwog Grey – 2 Gwrs gan gynnwys Prosecco am ddim am 90 munud ar gael 3, 4, 10, 11, 17 a 18 Rhagfyr £35.50 y pen

I archebu ar-lein cliciwch yma, e-bostiwch yma neu 02920646400 ffôn

Talebau RhoddPrynwch ar-lein yma.