Neidio i'r prif gynnwys

Lle i ddod o hyd i Siôn Corn yng Nghaerdydd a De Cymru y Nadolig hwn

9 Tachwedd 2022

Mae cyfarfod â’r dyn mawr ei hun yn rhan annatod o Dymor yr Ŵyl! Bydd Siôn Corn ar ei ffordd i Gaerdydd yn fuan iawn ac mae wedi cytuno i gwrdd â’r holl fechgyn a merched da mewn gwahanol leoliadau yn y ddinas.

I le ewch chi? Darllenwch ein canllaw isod a dewiswch eich hoff groto!

PROFIAD SIÔN CORN YN STADIWM PRINCIPALITY

2 Rhagfyr – 24 Rhagfyr

 

Archwiliwch fannau sanctaidd Stadiwm Principality cyn camu i mewn i ŵyl hudolus y gaeaf, a chalon Rygbi Cymru.  Man lle mae arwyr yn ymgynnull, man chwedlau, man breuddwydion.

Am y tro cyntaf yn hanes y stadiwm, mae Ystafell Newid y Tîm Cartref, man lle mae arwyr yn ymgynnull, wedi cael ei thrawsnewid yn groto Siôn Corn. Bydd ymwelwyr yn dilyn yn olion traed cewri byd rygbi wrth i Siôn Corn a’i dîm o gynorthwywyr prysur ymgartrefu yn Stadiwm Principality ar gyfer mis Rhagfyr.

GROTO SIÔN CORN AR HEOL Y FRENHINES

10 Tachwedd – 24 Rhagfyr

 

Manteisiwch ar y cyfle i osgoi holl brysurdeb siopa ar gyfer y Nadolig ac ewch i ymweld â Siôn Corn!

Yn eistedd yn glyd mewn caban pren, wedi’i addurno’n berffaith ar gyfer tymor y Nadolig, gall plant fynd i gwrdd â Siôn Corn a’i gorachod. Mae’r caban ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 10.30am ac mae tocyn yn cynnwys anrheg gan Siôn Corn.  Rhagor o wybodaeth yma.

CREDU YNG NGHANOLFAN DEWI SANT

25 Tachwedd – 24 Rhagfyr

 

Mae Credu, profiad hudolus o groto’r Nadolig, yn dychwelyd i Ganolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd bob dydd o ddydd Gwener 25 Tachwedd hyd at Noswyl Nadolig, dydd Sadwrn 24 Rhagfyr – ac mae’r tocynnau ar werth nawr.

Bydd gwesteion yn cael eu gwahodd i’r groto hudol lle byddant yn cwrdd ag un o gorachod ffyddlon Siôn Corn, McJingles, a’r carw hud sy’n siarad, Norbert – creadur bach â breuddwydion mawr. Gofala, Rwdolff! Dysgwch fwy yma.

CWRDD Â SIÔN CORN YM MHROFIAD NADOLIG Y BATHDY BRENHINOL

26 Tachwedd – 24 Rhagfyr

Y Nadolig hwn, beth am daro ymweliad â Phrofiad Nadolig y Bathdy Brenhinol? Bydd eira gwyn a hud yr ŵyl yn creu profiad Nadoligaidd gwych. Does dim llawer o bobl yn gwybod am hyn, ond rydyn ni am rannu cyfrinach â chi.

Yn llawn rhyfeddod a hyfrydwch, mae’n siŵr o fod yn ddiwrnod gwirioneddol hudolus gyda’r plant y Nadolig hwn. Mae Profiad Nadolig y Bathdy Brenhinol yn rhedeg bob dydd o ddydd Sadwrn 26 Tachwedd i ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr.

OGOF TEGANAU SION CORN YM MHARC TREFTADAETH Y RHONDDA

19 Tachwedd – 24 Rhagfyr

 

Mae Siôn Corn a’i Ogof Teganau anhygoel yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer 2022. Mae’r digwyddiad poblogaidd yn rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau taith a phrofiad Nadoligaidd a chwrdd â’r dyn mawr ei hun!

Bydd Taith Pyllau Glo Cymru unwaith eto yn cael ei weddnewid yn fyd Nadoligaidd – a dyma’r cyfle perffaith i ddathlu’r adeg arbennig hon o’r flwyddyn mewn ffordd draddodiadol.

GWLEDDA GYDA SIÔN CORN YN FUTURE INN

4 Rhagfyr – 24 Rhagfyr

 

Mae Siôn Corn yn brysur iawn yr adeg hon o’r flwyddyn yn ymbaratoi at y diwrnod mawr, ond mae angen i Siôn hyd yn oed orffwys a bwyta, felly beth am ymuno ag ef dros yr ŵyl yn Future Inn Bae Caerdydd a mwynhau cinio rhost traddodiadol, neu am frecwast hwyr cyn iddo fwrw ati gyda gwaith y dydd?  Mae’n brysur yn paratoi ar gyfer Dydd Nadolig ond bydd yn sicr o roi o’i amser i’r holl fechgyn a merched da.

Treuliwch ychydig o amser gyda’r teulu, gwisgwch eich siwmperi Nadolig ac ewch i’r Bae am wledd Nadoligaidd gyda Siôn Corn.

PROFWCH DDYMUNIAD SIÔN CORN YN Y SPIEGELTENT

2 Rhagfyr – 31 Rhagfyr

 

Ac yn olaf, gallwch ymuno â Snowflake y Corrach ar yr antur Nadoligaidd hon wrth iddynt helpu i achub sled Siôn Corn a chadw’r Nadolig ar y trywydd iawn, a gynhelir o fewn Spiegeltent Nadoligaidd Hudolus Castell Caerdydd, a phrofi cynhyrchiad mor unigryw â’r lleoliad perfformio.

Mae gwybodaeth am hyd yn oed mwy o hwyl yn y brifddinas y Nadolig hwn, ar ein tudalen Nadolig bwrpasol.