Neidio i'r prif gynnwys

Nadolig yn dod i Eglwys Norwyaidd Caerdydd

30 Tachwedd 2022

Bydd cymuned Norwyaidd fechan ond bywiog Cymru yn dathlu dyfodiad yr ŵyl Ddydd Sul (4 Rhagfyr), ac maen nhw’n gwahodd y cyhoedd i ymuno â nhw ar gyfer eu Gŵyl Goleuni a Chyfeillgarwch flynyddol yn eu heglwys eiconig ym Mae Caerdydd.

Daeth pobl o Norwy i Gymru yn y 19eg ganrif wrth i forwyr a masnachwyr ddod â phropiau pyllau glo a chyflenwadau i byllau glo de Cymru wrth i’r diwydiant hwnnw ffynnu. Ymgartrefodd llawer yma, gan gynnwys teulu’r awdur Roald Dahl. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd a’i fedyddio yn yr eglwys fach gafodd ei hadeiladu yn nociau Bute i wasanaethu’r gymuned leol a morwyr ar ymweliad.

Wrth i’r gymuned wasgaru, dirywiodd cyflwr yr eglwys bren wen a dadfeiliodd, ond yn ddiweddarach yn ei oes arweiniodd Dahl yr ymgyrch i’w chadw. Fe’i hailgodwyd yn y pen draw ar ei safle presennol ar y glannau, ac mae bellach yn ganolfan gelfyddydol a chaffi. Mae’n dal yn ganolbwynt i bobl Norwy sy’n byw, gweithio ac astudio ar draws Cymru.

Bydd caffi’r eglwys ar agor i bawb Ddydd Sul o 11 am i 6pm, gan wasanaethu ffefrynnau Norwyaidd yn cynnwys wafflau, cacennau, gwin cynnes, cŵn poeth a lapskaus – perthynas agos i gawl Cymru.

Bydd gweithdai yn y brif neuadd i’r rhai a hoffai ddysgu sut i wneud addurniadau Nadolig yn null Sgandinafia. Gellir archebu llefydd ar-lein am ffi fechan yn https://www.eventbrite.co.uk/e/christmas-decorations-workshop-tickets-469812601137

Wrth i’r cyfnos ddisgyn, tua 4.30 pm, bydd gorymdaith lusern awyr agored draddodiadol i oleuo’r goeden Nadolig a chroesawu Siôn Corn.  Bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth yn chwarae.

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Cymru-Norwy, Elusen Bae Caerdydd yr Eglwys Norwyaidd a Chyngor Sir Vestland yn Norwy, sydd ers tro wedi cefnogi’r gwaith o adfer adeilad yr eglwys a chynnal cysylltiadau diwylliannol ac addysgol rhwng de Cymru a gorllewin Norwy.