Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd

Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd wedi seibiant o ddwy flynedd, gydag amrywiaeth o gyflwyniadau gan rai o awduron plant mwyaf poblogaidd y DU.

Bydd awdurThe Beast and the Bethany -Jack Meggitt-Phillips, darlunydd a chrëwr arobryn y gyfresMini Rabbit -John Bond, hanesion môr-ladron y ddeunawfed ganrif gan Iszi Lawrence, a dathliad o 30 mlynedd oHorrible Historiesi gydyn rhan o’r ŵyl.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd wedi bod yn helpu i ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith plant lleol ers blynyddoedd bellach ac mae’n wych ei chael yn ôl. Mae yna awduron gwych wedi’u trefnu ar gyfer eleni, yn barod i greu cenhedlaeth hollol newydd o ddarllenwyr gydol oes.”

Ymhlith y digwyddiadau eraill sydd wedi’u cadarnhau ar hyn o bryd ar gyfer yr ŵyl mae:

Go Bookwanderinggydag Anna James – bydd awdur y gyfres Pages & Co yn sôn am ei chariad at lyfrau a’r llefydd ledled y byd sydd wedi siapio’i straeon, gan gynnwys yr antur Pages & Co diweddaraf,The Treehouse Library.
Dewch i gwrdd â’r Llychlynwyr GWAETHAF yn y pentref! Paratowch am anarchiaeth, drygioni ac anhrefn llwyr wrth i Francesca Simon a Steve May gyflwyno’r drydedd ran yn eu cyfres newydd ddrygionus, Two Terrible Vikings:
Ymunwch â’r darlunydd Huw Aaron wrth iddo rannu awgrymiadau a thriciau ar gyfer creu eich bydoedd hudolus, angenfilod rhyfedd ac anturiaethau chwedlonol eich hun wrth i ni ofyn ‘Ble mae Boc?’
Pan mae Blanksy’r gath yn darganfod talent ar gyfer paentio murluniau mae’n ei defnyddio i dynnu torfeydd mwy a mwy i helpu ei ffrind Pete y bysgiwr i ddod yn gyfoethog. Ond a fydd arian wir yn gwneud Pete yn hapus?’ Dysgwch fwy gyda’r awdur Gavin Puckett aBlanksy the Street Cat.
Dewch i ddarganfod rhai ffeithiau anhygoel am anifeiliaid a gweld sut rydych chi’n cymharu â rhai o greaduriaid a deinosoriaid mwyaf rhyfeddol y byd ar y daith hon drwy gyfresLifesizeyr awdur a’r darlunydd Sophy Henn.
Bydd y rhaglen lawn ar gyfer yr ŵyl, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ac yn yr Is-grofft yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn Ebrill 22 a dydd Sul Ebrill 23, yn cael ei datgelu pan fydd tocynnau ar werth.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru i dderbyn diweddariadau’r ŵyl, ewch i: https://www.cardiffkidslitfest.com/ /a>