Neidio i'r prif gynnwys

Eich Penwythnos Rygbi Chi, Ein Hamserlen Lawn Ni

27 Mawrth 2023


 

Ydych chi’n dod i’r ddinas ar gyfer gêm Rygbi Caerdydd? Gadewch i ni ei droi’n benwythnos llawn cyffro yn y brifddinas. Dyma ddetholiad o’r anturiaethau niferus sydd ar gael yn ein prifddinas.

Dyma allwedd: 👪 Hwyl i’r Teulu | 🍻 Gwych gyda Ffrindiau

 

Dydd Gwener

Eich Cartref am y Penwythnos 👪/🍻

Croeso i Gaerdydd. Welcome to Cardiff. Mae digon o lefydd i aros yng nghanol y ddinas – yr agosaf at Barc yr Arfau yw Gwesty’r Angel gyferbyn, neu Holiday Inn Canol Dinas Caerdydd. Os ydych chi’n chwilio am arhosiad eithriadol o fodern yng nghanol y ddinas, mae gwestai’r Clayton a’r Marriott ill dau wedi cael eu hadnewyddu’n ddiweddar – y ddau 10 munud ar droed o Barc yr Arfau Caerdydd.

Dysgwch Bopeth am y Ddinas yn Amgueddfa Caerdydd👪

Yn Amgueddfa Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yn hen lyfrgell restredig Gradd II Caerdydd, gall ymwelwyr archwilio stori’r ddinas a’i threftadaeth, gan ganolbwyntio ar nodwedd bwysicaf unrhyw ardal – ei phobl. Yn ffordd wych o ddechrau eich ymweliad, dysgwch bopeth am orffennol y ddinas a phopeth sydd wedi siapio’r ddinas a welwch heddiw. Mynediad am ddim. Ar agor 10am i 4pm.

Beth am Gystadleuaeth 👪

Dewch i ddarganfod hud a lledrith Treetop Adventure Golf, sy’n cuddio uwchben Canolfan Dewi Sant. Dewiswch rhwng y Llwybr Trofannol a’r Anturiwr Hynafol – gyda Pizza Cabana a snacs jynglaidd eraill i’ch pweru drwy eich antur. Os oes gennych sgôr i’w setlo o hyd, ewch i Superbowl am sesiwn fowlio, cwest laser a gemau arcêd.

Teimlo’n Wrthryfelgar? Ewch i Tiny Rebel 🍻

Yn ymweliad hanfodol i unrhyw un sy’n hoff o’u cwrw crefft, mae’r micro-fragdy o dde Cymru, Tiny Rebel, wedi ennill enw da i’w hunain ymysg y cewri. Dewch i weld eu bar brics coch a mwynhau tamaid o’u bwydlen Americanaidd, a diod neu ddwy wrth gwrs. Wedi eu lleoli ar Stryd Womanby, gyferbyn â Pharc yr Arfau, Tiny Rebel yw cartref sîn gerddoriaeth fyw annibynnol Caerdydd ac maent yn sicr yn falch o chwarae eu rhan – gan groesawu bandiau ac artistiaid yn eu bar lan llofft.

Gadewch i’r Gemau Ddechrau 🍻

Teimlo’n gystadleuol? Ymwelwch â bar sy’n eiddo i un o chwedlau’r byd pêl-droed! Mae Par 59 Gareth Bale yn gartref i golff antur ar ffurf unigryw a soffistigedig. Neu, os oes gennych grŵp mwy o faint, trefnwch sesiwn dartiau rhyngweithiol yn Flight Club. Fel arall, Boom Battle Bar, o’r gwthfwrdd clasurol i daflu bwyeill, yw’r cyfle perffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Dydd Sadwrn

Darganfyddwch 2000 Mlynedd o Hanes yng Nghastell Caerdydd 👪/🍻

Wrth grwydro’r ddinas, mae’n siŵr eich bod wedi dod ar draws Castell Caerdydd, yr heneb sy’n angori canol ein dinas – yn hanesyddol, caer Rufeinig ydyw, a drowyd wedyn yn gadarnle Normanaidd ac yn balas ffantasi Gothig Fictoraidd. Dysgwch am holl wahanol fywydau’r castell, gan uwchraddio i daith dywys i gael y profiad llawn.

Bywyd y Parc 👪/🍻

Wedi darganfod Castell Caerdydd, hen drigfan y teulu Bute, beth am ymweld â gweddill y tir yr oedden nhw’n ei feddiannu yn y ddinas? Ewch i Barc Bute a chymerwch olwg ar Wal yr Anifeiliaid, Gardd Stuttgart, Camlas Gyflenwi’r Dociau a llwybr gweithgareddau natur. Lawrlwythwch yr ap Love Exploring i gael eich tywys at nodweddion gorau’r parc.

Tu ôl i’r Llenni yn Stadiwm Principality 👪/ 🍻

Rydych chi eisoes wedi gweld Castell Caerdydd, un o’r prif dirnodau yng nghanol y ddinas – nawr mae’n amser am un arall. Yn ôl at y thema chwaraeon, nawr yw’r amser am daith o amgylch un o stadia mwyaf adnabyddus Ewrop, ac un o’r unig rai sydd â tho symudol. Dysgwch am hanes rygbi yng Nghymru ac Undeb Rygbi Cymru ar daith 75 munud o Stadiwm Principality (rhaid archebu ymlaen llaw).

Egni ar gyfer y Gêm ar Stryd yr Eglwys neu Lôn y Felin 👪/🍻

Paratowch ar gyfer y gêm fawr, drwy alw yn un o fwytai niferus y ddinas. Cerddwch ar hyd Stryd yr Eglwys ac fe welwch ddetholiad o ddanteithion – rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn argymell The Botanist, Franco Manca neu Pho. Os oes awydd coctêl neu dri arnoch gyda’ch pryd, ewch am dro ar hyd Lôn y Felin a galwch yn un o’r bariau niferus sy’n gweini bwyd yno, fel Las Iguanas, The Coconut Tree neu Pitch. Mae’r penwythnosau’n brysur iawn, felly cofiwch archebu’ch bwrdd ymlaen llaw.

Amser Gêm! 👪/🍻

Dyma’r foment rydych chi wedi bod yn aros amdani. Fe welwch Barc yr Arfau enwog Caerdydd ar Heol y Porth, gydag awyrgylch y gêm yn plethu’n berffaith â bwrlwm economi’r nos yng nghanol ein dinas.

Mae’r gatiau’n agor 1.5 awr cyn y gic gyntaf gyda bariau, bwyd stryd go iawn ac adloniant byw. Mae pobl fel Côr y Gleision, Ragsy a Base 12 i gyd yn perfformio yn rheolaidd mewn gemau yng Nghaerdydd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio’n llawn ar yr awyrgylch!

Mae adloniant byw ar y cae ac o flaen y tŷ clwb yn aml yn ystod hanner amser.

Ennill neu golli, peidiwch â rhuthro i ffwrdd ar ôl y gêm gan y bydd y Crysau Glas a Du yn croesawu eu cefnogwyr ar y cae unwaith iddyn nhw ddiolch i’r gwrthwynebiad a chreu twnnel. Felly ewch ar y cae i gael hunlun gyda rhai o enwau mwyaf y byd rygbi.

Cardiff Blues

Yr eiconig Chippy Lane 🍻

Sociwch yr alcohol i fyny ar Stryd Caroline, neu Chippy Lane, llecyn carbohydradaidd poblogaidd ar ôl noson allan – ond yn yr un modd â byd y campau, allwch chi ddim eistedd ar y ffens, rhaid dewis ochr yn y ddadl hirhoedlog rhwng Dorothy’s a Tony’s. Anfonwch y sgôr i ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CroesoCaerdydd.

 

Dydd Sul

Amser Siopa 👪/🍻

O’n saith arcêd siopa Fictoraidd ac Edwardaidd hanesyddol, sy’n gartref i siopau annibynnol, i’n canolfan siopa flaenllaw, Dewi Sant, sy’n gartref i dros 200 o siopau brand adnabyddus sy’n eistedd ochr yn ochr â llawer o fanwerthwyr unigryw. Prynwch rywbeth i gofio’ch ymweliad o un o’r siopau crefft Cymreig.

Y Cinio Dydd Sul Perffaith 👪/🍻

Dafliad carreg o ganol y ddinas mae cymdogaeth ddeiliog Pontcanna, sy’n gartref i sîn fwyd lewyrchus – un o’n hoff lefydd am ginio dydd Sul yw’r Pontcanna Inn. Perffaith os cawsoch chi un yn ormod y noson gynt. Na, allen ni ddim dychmygu hynny’n digwydd chwaith. Os nad oes awydd cerdded arnoch, arhoswch yn y canol ac ymweld â’r Welsh House, sydd newydd agor. Maen nhw’n canolbwyntio ar ddefnyddio cynnyrch Cymreig cynaliadwy a, chyda chefnogaeth 4 eicon rygbi Cymru, mae’n sicr yn werth ymweld.

 

Darganfyddwch Un Atyniad Olaf Cyn Mynd 👪/🍻

Os ydych chi’n teithio ar y trên, manteisiwch ar y cyfle i ddysgu am hanes darlledu a chael cip y tu ôl i’r llenni ar Deithiau BBC Cymru Wales, y mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Gallwch deithio yma’n rhwydd, gan ddefnyddio gwasanaethau bob awr Trafnidiaeth Cymru rhwng Caerdydd a Manceinion Fwyaf.

Teithio mewn car? Galwch yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan – amgueddfa hollol unigryw. Mae’r atyniad awyr agored hwn, a enwyd yn Amgueddfa’r Flwyddyn Art Fund 2019, yn adrodd hanes Cymru, ei phobl a’n chwyldro diwydiannol, trwy bentref bach o adeiladau hanesyddol sydd wedi’u hadfer.

Dim ond blas yw hyn ar y pethau y gallwch eu gwneud yng Nghaerdydd, felly byddem wrth ein boddau’n gwybod popeth am eich teithiau rygbi. Rhowch wybod i ni sut mae pethau’n mynd drwy ein tywys ar eich taith ar y cyfryngau cymdeithasol. @CroesoCaerdydd #CroesoCaerdydd. 🏉