Neidio i'r prif gynnwys

Mae Gŵyl Gomedi’r BBC yn dod i Gaerdydd

Mae’r Ŵyl Gomedi yn gyfle i ddod â gwahanol rannau o’r diwydiant comedi ynghyd, ac i atgoffa’r byd y tu allan mai comedi yw un o’n llwyddiannau diwylliannol mwyaf ni yma ym Mhrydain

 

 

 

Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Gomedi’r BBC y llynedd, rydym yn edrych ymlaen at ddod â digrifwyr gorau’r DU i Gaerdydd ym mis Mai i ysbrydoli, dathlu a thrafod comedi – sef rhan hanfodol o ddiwylliant Prydain.

— Jon Petrie, Cyfarwyddwr Comedi

A hithau bellach yn ei hail flwyddyn, mae Gŵyl Gomedi’r BBC yn dychwelyd gyda rai o ddoniau mwyaf disglair y byd comedi

Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Gomedi gyntaf y BBC yn Newcastle ym mis Mai 2022, mae Caerdydd wedi cael ei henwi’n Ddinas Gomedi newydd y BBC a fydd yn gyfrifol am gynnal yr Ŵyl Gomedi eleni rhwng dydd Mercher 24 a dydd Gwener 26 Mai.

Mae’r Ŵyl Gomedi yn gyfle i ddod â gwahanol rannau o’r diwydiant comedi ynghyd, ac i atgoffa’r byd y tu allan mai comedi yw un o’n llwyddiannau diwylliannol mwyaf ni yma ym Mhrydain.

Yn ystod y tri diwrnod, cynhelir cyfres o sgyrsiau, paneli, dangosiadau, noson ffilm fer, sioeau comedi byw, recordiadau BBC Sounds, sesiwn sgrinio unigryw, a sesiwn holi ac ateb yn seiliedig ar y gyfres gomedi, Man Like Mobeen, ar BBC Three.

Dyma rai o’r siaradwyr a fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni: Bisha K Ali, Jesse Armstrong, Tom Basden, Peter Baynham, Rob Brydon, Jamie Demetriou, Sharon Horgan, Guz Khan, Kayleigh Llewellyn, Nida Manzoor, Kiri Pritchard-McLean, Diane Morgan, Mawaan Rizwan, Danielle Vitalis, Holly Walsh a Katy Wix.

Bydd nifer o gynhyrchwyr comedi profiadol hefyd yn cymryd rhan yn y sesiynau, fel Kenton Allen (Big Talk), Ash Atalla (RoughcutTV), Phil Clarke (Various Artists Ltd) a Nerys Evans (Expectation).

Mae’r Ŵyl Gomedi yn gyfle i gynhyrchwyr – rhai newydd a rhai sydd wedi ennill eu plwyf – a’r rheini sy’n dechrau ar eu gyrfa yn y diwydiant teledu, ddod i fyfyrio, dathlu a dysgu mwy am y diwydiant comedi yn y DU. Ddydd Iau, bydd y sesiynau’n canolbwyntio’n bennaf ar y diwydiant, a bydd y sesiynau ddydd Gwener yn berthnasol i’r rhai sydd eisiau dechrau gyrfa yn y maes.

Bydd detholiad o baneli a digwyddiadau’r ŵyl ar gael i’r cyhoedd, a bydd tocynnau ar gael am ddim maes o law ar ôl i’r amserlen gael ei chyhoeddi drwy Theatr y Sherman.

Dywed Jon Petrie, Cyfarwyddwr Comedi: “Yn dilyn llwyddiant Gŵyl Gomedi’r BBC y llynedd, rydym yn edrych ymlaen at ddod â digrifwyr gorau’r DU i Gaerdydd ym mis Mai i ysbrydoli, dathlu a thrafod comedi – sef rhan hanfodol o ddiwylliant Prydain.”

Bydd Dinas Gomedi’r BBC yn gartref i gasgliad o ddigwyddiadau byw yn ystod y flwyddyn, gan ddechrau gyda dwy noson gomedi am ddim yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae tocynnau ar gael yn https://www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk/beth-sydd-ymlaen/comedi/