Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Traffig a Theithio pan fydd Beyonce yn Stadiwm Principality ar 17 Mai

10 Mai 2023


 

Bydd Beyonce yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 17 Mai, yn rhan o’r Daith Fyd-eangRenaissance.

I sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 4pm tan hanner nos ar 17 Mai.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 yn brysur iawn – cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn Stadiwm Lecwydd, neu’r cyfleuster parcio a cherdded yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd arWefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS arTwitteraFacebook.

I osgoi cael eich siomi, cynghorir y rhai sy’n mynd i weld y gyngerdd yn gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a mynd i Gaerdydd a’r stadiwm yn gynnar. Bydd gatiau Stadiwm Principality ar agor i’r cyhoedd am 5pm. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, rhwng 4pm a chanol nos.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhamon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gyngerdd orffen ac am hyd at awr wedi diwedd y gyngerdd er diogelwch i deithwyr sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Bydd hynny’n effeithio ar y ffyrdd hyn: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau

MaeTrafnidiaeth Cymruyn cynnal gwaith uwchraddio seilwaith ar rwydwaith Craidd Rheilffyrdd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, felly bydd bysiau yn lle gwasanaethau rheilffordd drwy’r dydd rhwng Pontypridd a Threherbert ddydd Mercher 17 Mai.

Bydd TC yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael y ddinas ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau’n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad am wasanaethau’r brif lein ar y Sgwâr Canolog a chiwiau am wasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 9.45pm heblaw am deithiau uniongyrchol i Fae Caerdydd.

Oherwydd amser gorffen y digwyddiad nid oes gwasanaethau wedi’r digwyddiad i Birmingham, Llundain na Chaergybi.

Ewch i trc.cymru neu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â’r swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi’r cyngerdd.  Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon; gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

Ond mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth wedi’r digwyddiad ac fe fydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt, ac amser eu trên olaf adref. 

Mae undeb ASLEF (gyrwyr trenau) hefyd wedi cyhoeddi y bydd gweithredu, ond nid streic, yn digwydd tua 17 Mai. Mae GWR yn bwriadu darparu amserlen lawn, ond bydd y gweithredu’n debygol o achosi rhai newidiadau a chanslo byr-rybudd – rydyn ni’n cynghori cwsmeriaid yn gryf i edrych ar www.gwr.com/checkcyn teithio.

Bysus – Big Green Coach

Hefyd, bydd cwmni Big Green Coach yn cynnig teithiau carbon niwtral rhwng Caerdydd a:  Caerfaddon, Birmingham, Bryste, Caerloyw, Casnewydd a Chaerwrangon. Gall cwsmeriaid archebu taith drwy’r ddolen hon:https://www.biggreencoach.co.uk/events/beyonce-renaissance-tour-coach-travel-cardiff-sunderland-tottenham

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd Lecwydd, a gallwch chi gyrraedd hyn o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i’r safle.

Y man gollwng fydd Arglawdd Fitzhamon.

Mae’r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy’n daith o tua 10 i 15 munud.

Rhaid talu £12 ar y diwrnod.

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 9am pan fydd y safle’n agor. Bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael Arglawdd Fitzhammon am hanner nos a bydd y safle parcio a theithio yn cau am 12.30am ar 18 Mai.

 

Cyfleusterau Parcio a Cherdded

Bydd cyfleuster Parcio a Cherdded o faes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y safle parcio a cherdded yn agor am 2pm ac yn cau am hanner nos. £5 fydd y gost am barcio.

 

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod y Digwyddiad (Ceir a Bysus)

I gyrraedd: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

I gyrraedd: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan hanner nos. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Bydd holl wasanaethau Bws Caerdydd yn mynd i’r safleoedd bws lloeren o 4pm tan y bws olaf. Gallwch chi weld yr holl newidiadau i safleoedd bws ar ôl 4pm yma –  Digwyddiadau Stadiwm Principality – Bws Caerdydd

I ddarllen am wasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Neu i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn mynd i Erddi Sophia fel yr arfer.   Am 3pm, Heol y Gadeirlan fydd man casglu Gwasanaethau National Express.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo roi cynnig arno.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 4pm ac yn ailagor am hanner nos.