Neidio i'r prif gynnwys

Llinellau Cau yn eu lle i gyflwyno Trawsnewid Llinell Bae Caerdydd

12 Mai 2023 · Trafnidiaeth Cymru


 

Pa waith ydych chi’n ei wneud?

 

Byddwn yn adeiladu gorsaf newydd â dau blatfform yng ngogledd Butetown, a hynny fel rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf sydd wedi digwydd i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ers cenhedlaeth.

Bydd yr orsaf bresennol ym Mae Caerdydd yn cael ail blatfform hefyd, yn ogystal ag arwyddion newydd, sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid a gwelliannau eraill.

Bydd y gwaith o osod cledrau newydd yn golygu y bydd modd cynnal gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio trenau tram newydd, a bydd amserlen newydd ar waith o wanwyn 2024 ymlaen.

Byddwn hefyd yn gosod y cyfarpar llinellau uwchben a fydd yn pweru’r trenau tram cyflymach, llyfnach a gwyrddach. Bydd y cyfarpar llinellau uwchben yn cael ei osod rhwng gorsaf newydd Butetown a gorsaf Bae Caerdydd, ond bydd y trenau newydd yn rhedeg ar fatri rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a gorsaf newydd Butetown.

Bydd y gwaith o wella llinell y Bae yn dechrau yn gynnar yn 2023 ac yn gorffen tua gwanwyn 2024.

Pa fanteision sydd i Butetown a’r Bae?

 

Bydd y Metro yn helpu i gefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth drwy wella’r cysylltiadau ar draws De Cymru a thu hwnt. Bydd yn golygu teithiau cyflymach, amlach a gwell i deithwyr.

Mae’r trenau tram newydd sbon a fydd yn gwasanaethu’r Metro yn drydanol ac yn cynhyrchu llai o CO2 na’r trenau sy’n rhedeg ar hyn o bryd. Mae’r trenau newydd hefyd yn dawelach i’r rheini sydd ar y trên ac i’r rheini sy’n byw’n agos at y rheilffordd. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy dibynadwy hefyd yn golygu y bydd angen i lai o bobl ddefnyddio’u ceir, gan leihau’r straen ar y ffyrdd prysur o amgylch Caerdydd a’r cyffiniau.

Bydd ein hamserlen newydd a’n trenau tram yn gwella cysylltedd i drigolion lleol drwy gael:

  • 3 cherbyd, yn lle 1 – 126 o seddi, gyda’r capasiti ar gyfer 256 o bobl
  • 6 trên bob awr
  • Cledrau dwbl

A fydd Rheilffordd Bae Caerdydd yn cau?

 

Fel y gall Trafnidiaeth Cymru wneud gwaith ar Fetro De Cymru, byddwn yn cau lein Bae Caerdydd rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Bae Caerdydd ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sul 15 Mai tan ddydd Sul 28 Mai 
  • Dydd Sul 11 Mehefin tan ddydd Sul 25 Mehefin

Yn ystod y cyfnod cau, gellir defnyddio’r tocyn trên ar wasanaeth Bws Caerdydd.