Beth wyt ti'n edrych am?
Cyngor Teithio ar gyfer Billy Joel ar 9 Awst yng Nghaerdydd
Dydd Iau, 1 Awst 2024
Bydd Billy Joel yn chwarae yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Gwener 9 Awst. Bydd gatiau’r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o gwmpas y stadiwm o 3pm tan hanner nos am resymau diogelwch.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd, felly cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, CF11 8AZ.
Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar X a Facebook.
Mae pobl sy’n mynd i’r cyngerdd yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i’r stadiwm yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.
Cau Ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 3pm tan ganol nos.
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
- Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r cyngerdd orffen ac am hyd at awr wedi diwedd y cyngerdd er diogelwch i deithwyr sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau – Trafnidiaeth Cymru (TrC)
Bydd Trafnidiaeth Cymruyn ychwanegu capasiti lle bo modd i ar lwybrau i mewn ac allan o Gaerdydd ddydd Gwener 9 Awst, ond disgwylir i’r trenau fod yn brysur iawn felly rydym yn annog cwsmeriaid i ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 21:30, heblaw am fynediad hygyrch a theithwyr sy’n dymuno teithio i Fae Caerdydd.
Bydd gwiriadau refeniw yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd drwy gydol y dydd. Gall pobl fynd i i trc.cymru neu i ap newydd Trafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn cael ei chynnal ym Mhontypridd sy’n golygu y gallai gwasanaethau fod yn brysur.
Trenau – Great Western Railway (GWR)
Bydd Great Western Railway yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi’r cyngerdd. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon; gyda digon o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngerdd a bydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i ddefnyddio’r trenau’n ddiogel.
Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref yn www.gwr.com/check.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Digwyddiad ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, a gallwch chi gyrraedd yma o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i’r safle.
Y man gollwng fydd Arglawdd Fitzhammon.
Mae’r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy’n daith o tua 10 i 15 munud.
Rhaid talu £15 ar y diwrnod. Arian parod yn unig.
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.45am pan fydd y safle’n agor. Bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael Arglawdd Fitzhammon am hanner nos a bydd y safle parcio a theithio yn cau am 12:30am y bore wedyn.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Bysus)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia (Ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i fysus – mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor gwasanaethau Adventure Travel, ewch i: Home | Adventure Travel
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r cyngerdd, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Mae tacsis cerbyd Hacni (du a gwyn) a cherbydau hurio preifat yn gweithredu’n wahanol iawn o dan wahanol ddeddfwriaeth. Darllenwch fwy am hynny yma – https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/17047.html
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i dacsis cerbyd Hacni dderbyn archebion o safleoedd tacsis sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin y ddinas oni bai bod ganddynt esgus rhesymol (megis cario bwyd agored, bod yn feddw neu’n ymosodol) a rhaid iddynt hefyd ddefnyddio’r mesurydd tacsi wedi’i ffitio i gyfrifo’r pris. Mae gwrthod y prisiau hyn neu beidio â defnyddio’r mesurydd yn drosedd.
Os yw rhywun yn cael tacsi sy’n teithio’r tu allan i ffin Caerdydd – does dim rhaid defnyddio’r mesurydd, ac mae’r pris y cytunwyd arno yn cael ei drafod rhwng y gyrrwr a’r cwsmer fel cytundeb llafar. Trafodwch gyda’r gyrrwr tacsi.
Tra bydd rhai tacsis yn cymryd taliadau cardiau, mae’r mwyafrif yn cymryd arian parod yn unig, cofiwch hyn cyn cael tacsi o’r safle a gwiriwch gyda’r gyrrwr cyn i’ch taith adref ddechrau.
Os gwrthodir taith i chi, neu os cymerir mwy na’r ffi gan dacsi cerbyd hacni, nodwch rif y gyrrwr neu fanylion y rhif plât, yn ogystal â ble a phryd y digwyddodd hyn, ac e-bostiwch trwyddedu@caerdydd.gov.uk. Sylwch y bydd angen datganiad gan y cwsmer arnom i ymchwilio i’r drosedd honedig, ac efallai y gofynnir i’r cwsmer fynychu pwyllgor fel rhan o’r broses ddisgyblu.
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 3pm ac yn ailagor am hanner nos.