
Mae gan Rainbow Casino Caerdydd ddwy ardal chwaraeon gyda sgriniau mawr sy’n dangos holl gemau’r Chwe Gwlad. Mae mynediad am ddim ac mae llawer o gynigion, gan gynnwys £2 am beints penodol a £4.95 am byrgyr a pheint.
Mae Rainbow Casino yn lleoliad i bobl 18+ oed ac mae’n hyrwyddo gamblo cyfrifol. Nid oes angen bod yn aelod.
Dydd Iau 28 Chwefror 7.45pm a dydd Gwener 1 Mawrth 7.45pm
GRAV
Cwmni Theatr Torch
Ysgrifennwyd gan Owen Thomas
Cyfarwyddwyd gan Peter Doran
Mae Gareth J Bale yn chwarae rôl ‘Grav’ yn y sioe un dyn benigamp hon sy’n archwilio bywyd ac amser un o hoff feibion Cymru, Ray Gravell. Roedd ‘Grav’ yn enwog am ei orchestion chwedlonol ar y cae rygbi, ond mae llawer mwy i’w wybod amdano.
Actor, eicon diwylliannol, tad, gŵr, dyn gyda bywyd llawn straeon sy’n haeddu cael eu clywed mwy nag unwaith. P’un ai a ydych yn ffan Rygbi neu beidio, dim ond y rhai â chalon galed na fyddent yn mwynhau’r cynhyrchiad hwn.
Tocynnau £15, £13 consesiwn (Dan 25 oed Hanner Pris)
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
029 2039 1391
Am gael diodydd blasus wrth wylio gemau’r Chwe Gwlad? Ewch i Laguna Bar i fwynhau dewis o goctels â thema Gymreig am £8 yr un, gan gynnwys:
Alun Wyn Woo Woo
Fodca Finlandia, Archers, Sudd Llugaeron, Sudd Leim
Navidi Tini
Fodca Finlandia, Liqueur Granadila, Sudd Pinafal, Sudd Lemwn
Halfpenny Kiss
Finlandia Blas Llugaeron, Sudd Llugaeron, Mintys Ffres, Grenadin
Samson Slammer
Tecila Aur, Sudd Grawnffrwyth, Sudd Pinafal, Angostura Bitters, Surop Fanila
George Gin Fizz
Jin Bombay Sapphire, Triple Sec, Sudd Leim, Prosecco
Diwrnod Sba’r Chwe Gwlad dim ond £79 y person
Dim diddordeb gennych yn rygbi’r Chwe Gwlad? Yna dewch i Westy’r Vale am ddiwrnod o ymlacio heb rygbi ddydd Sadwrn 9 a 23 Chwefror a dydd Gwener 9 a 16 Mawrth.
Treuliwch amser gyda ffrindiau a chael triniaeth foethus gan ddechrau gyda thyliniad ag olew twym wedi’i ddilyn gan driniaeth i’r wyneb fydd yn eich ymlacio. Wedyn ymlaciwch ar y gwelyau dŵr ardderchog sydd wedi’u gwresogi, ymlaciwch yn yr ardal gysgu Indiaidd neu ewch i drochi yn y pwll 20m braf.
Mae’r diwrnod sba hwn i ddau berson felly dewch â ffrind neu grŵp o fenywod y mae eu gwŷr yn gwylio’r rygbi a mwynhau cael eich sbwylio.
Lletygarwch Rygbi Corfforaethol
Gwesty’r Vale yw’r lle perffaith i gynnal eich digwyddiad lletygarwch rygbi corfforaethol Cymru. Dyma westy swyddogol tîm rygbi Cymru, felly mae wedi bod yn cynnal gwersylloedd hyfforddiant cyn twrnameintiau a chyn teithiau’r tîm ers blynyddoedd.
Mae Pecyn Lletygarwch Corfforaethol yn cynnwys:
- Derbyniad siampên
- Pryd o fwyd tri chwrs blasus
- Bar am ddim cyn ac ar ôl y gêm am awr
- Siaradwr gwadd enwog
- Coets foethus i ac o’r Stadiwm Principality
- Bwffe ar ôl y gêm
- Parcio AM DDIM yn y gwesty
Dydd Sadwrn 23 Chwefror 2019
Cymru yn erbyn Lloegr – £185 gan gynnwys TAW
Siaradwr gwadd: Cyn chwaraewr Lloegr Rhyngwladol, Kyran Bracken
Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2019
Cymru yn erbyn Iwerddon £170 gan gynnwys TAW
Siaradwr gwadd: Cyn chwaraewr Cymru Rhyngwladol, Craig Quinnell
LLETYGARWCH CORFFORAETHOL HEB DOCYNNAU YW HYN
Dewch i ddathlu’r gemau mawr gyda ni ym Mwyty Grey yng Ngwesty’r Hilton Caerdydd!
Cymru yn erbyn Lloegr dydd Sadwrn 23 Chwefror 2019 – Cic gyntaf am 4.45pm
Mwynhewch ein prydau cyn y gêm o 12.30pm neu ein prydau ar ôl y gêm o 19.00pm
Cymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn 16 Mawrth 2019 – Cic gyntaf am 2.45pm
Mwynhewch ein prydau cyn y gêm o 11.30pm neu ein prydau ar ôl y gêm o 17.00pm
Bwffe cyn y gêm = £75.00 y person ar ôl y gêm = £45.00 y person
Cinio Canol y Bore cyn y Gêm
Dewch i fanteisio ar amrywiaeth o ffefrynnau bwffe brecwast, yn ogystal â phrydau blasus gyda Bucks Fizz am ddim i’ch paratoi ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn 16 Mawrth. Am £15.00 yn unig y person gallwch gadw bwrdd yn ein Bwyty RBG a mwynhau’r awyrgylch cyn y gêm fawr.
Cynnig Bwyd a Diod ar ôl y Gêm
Dewch i’r Bwyty RBG yn y Park Inn ar ôl gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ar 16 Mawrth. Dangoswch eich tocyn i’r gêm i ni i gael gostyngiad o 20% ar eich bil bwyd a diod. Oes digon o chwant bwyd arnoch i fwyta stêc? E-bostiwch ni i gadw eich bwrdd er mwyn bwyta detholiad o brydau mawr ac iachus sy’n amrywio o gig a physgod wedi’u grilio i saladau ffres a phrydau arbennig.
Mae’r Chwe Gwlad wedi dechrau! Os ydych yn bwriadu dod i Gaerdydd ar gyfer y rygbi beth am gynllunio o flaen llaw a theithio ar y bws? Mae gennym lawer o wasanaethau rheolaidd a fydd yn dod â chi i mewn i’r ddinas o bob rhan o dde Cymru.
Am fwy o wybodaeth ac i weld ein cynigion gwych ar gyfer tocynnau gan gynnwys ein cynnig 2gether lle gall 2 oedolyn deithio am ddiwrnod am £10 yn unig, ewch i.
Ddydd Sadwrn 23 Chwefror, rydym yn cynnig Cinio Rygbi arbennig yng Ngwesty Holm House.
Cinio tri chwrs gyda thrafnidiaeth i’r gêm am £35.00 y person.
Pontcanna Inn yw Y lle i wylio’r chwe gwlad gyda sgriniau teledu ym mhob rhan o’r tafarn ac mewn pabell fawr ar yr ochr!
Hefyd pabell fawr wedi’i gwresogi i ffans gyda thaflunydd enfawr; mwy o sŵn a mwy o doiledau!
Mae gan y lleoliad 3 thafarn a threlar ‘Airstream’ bwyd stryd sy’n gweini cebabau posh a byrgyrs blasus.
Bwyd a diod cyn ac ar ôl y gêm, dim ond 15 munud y bydd yn cymryd y rheiny sy’n ddigon ffodus i gael tocynnau ar gyfer y gemau i gerdded i’r Stadiwm Principality. Os nad os gennych docyn, dyma’r dewis gorau nesaf! Dewch yn gynnar!
Y lleoliad mwyaf prydferth i wylio gemau’r Chwe Gwlad 2019 yng Nghaerdydd yw Chapel 1877.
Mae yng nghanol y ddinas a dim ond 10 munud y mae’n cymryd i gerdded i’r stadiwm.
Pastai a pheint am £10 a Jwg llawn Amstel am £15 yn ystod pob gêm.
Mae pecynnau prydau tri chwrs ar gael am £49 y person yn ystod gêm Cymru yn erbyn Lloegr ar 24 Chwefror a Chymru yn erbyn Iwerddon ar 16 Mawrth
Cadwch le i osgoi cael eich siomi.