Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 8 Chwefror 2019

P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

Dydd Iau 7fed Chwefror

Senedd: Gig Horizon a DMC Gig yn y Senedd!  (5pm-9pm)

Bydd Huw Stephens, BBC Radio 1, yn cynnal y gig gyda pherfformiadau gan Adwaith, Chroma ac Eadyth. Bydd Eluned Morgan AC hefyd yn siarad yn y digwyddiad.

RSVP Cymraeg@gov.wales

Dydd Gwener 8 Chwefror

John Lewis (11am-11.30am)     

Perfformiad arbennig gan HMS Morris. Am ddim!

 

City Arms (1pm-3pm)

Digwyddiad yn y City Arms i lansio ymrwymiad Brains i chwarae cerddoriaeth Cymraeg ym mhob un o’i dafarnau o Chwefror 8fed DMC ymlaen. Perfformiadau gan HMS Morris, Mellt and Lili Beau

RSVP Cymraeg@gov.wales

 

Hen Lyfrgell (2pm-3pm)

Dewch i ymuno gyda Menter Caerdydd mewn sesiwn blasu Cerddorion Bach Caerdydd. Perffaith ar gyfer rhai o 0 – 5 oed, gyda croeso i’r teulu cyfan.

£4 https://mentercaerdydd.org/product/cerddorion-bach-caerdydd-dydd-miwsig-cymru/

 

Clwb Ifor Bach (4pm-8pm)

Gwilym, CHROMA, Rhys Dafis, Ani Glass, R. Seiliog – Am ddim!

https://clwb.net/events/event/dydd-miwsig-cymru/occurrence/1796/

 

St Johns Canton Church (7.30pm)

Brigyn, Sera – £11 – https://www.wegottickets.com/event/460319

 

Chapter Arts Centre (8:30pm)

Anorac (15) Stori pererindod gerddorol Huw Stephens (Radio 1) ar draws Cymru gyda Huw yn cyflwyno ar y noson – https://www.chapter.org/anorac-15


Ymuna yn yr hwyl

Mae cymaint yn mynd ymlaen i ddathlu Dydd Miwsig Cymru – dyma sut mae ymuno yn yr hwyl:

  • ymuna yn y sgwrs gyda’r hashnod #dyddmiwsigcymru
  • dilyna ni ar TwitterFacebook
  • rhanna’r dudalen hon gyda dy holl ffrindiau