Neidio i'r prif gynnwys

Hwyl i’r Teulu: 5 Ffordd o dreulio Nos Galan 2022 sy'n Addas i’r Teulu

19 Rhagfyr 2022

1. Treulio Diwrnod Lawr y Bae

Os ewch chi lawr i Fae Caerdydd Nos Galan hon, cewch eich synnu gan yr amrywiaeth o gymeriadau bara sinsir ar hyd y lle – gan fod y Bae wedi cael ei gymryd drosodd gan gerfluniau sinsir mawr (ond cyfeillgar). Dilynwch y llwybr o amgylch y Bae, a chymerwch olwg ar y Tŷ Bara Sinsir yng Nghanolfan Red Dragon. Tra’ch bod chi yno, beth am wneud diwrnod ohoni gyda gêm o fowlio deg yn Hollywood Bowl, gwylio ffilm gyda’ch gilydd yn sinema Odeon IMAX a chael hoe yn Five Guys sy’n gweini byrgyrs eiconig o America gan ddefnyddio cynnyrch ffres.

2. Ewch ar Antur Gŵyl y Gaeaf

Manteisiwch ar y cyfle i ymweld â safleoedd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd ar Lawnt Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd. Ar Lawnt Neuadd y Ddinas, gallwch fwynhau ffair glasurol, gwylio’r ddinas o’r Olwyn Fawr banoramig a chwarae gemau am gyfle i ennill gwobrau mawr. Draw yng Nghastell Caerdydd gallwch fentro i’r llawr sglefrio iâ a’r daith iâ, cyn cynhesu gyda siocled poeth a thostio malws melys. Cadwch eich lle ar y llawr sglefrio iâ ymlaen llaw, gyda sesiynau drwy’r dydd a hyd yn oed sesiwn ganol nos.

 

3. Gwylio Sioe Hudol Dymuniad Siôn Corn

Gallwch ddal y dangosiad olaf o Dymuniad Siôn Corn am 2pm ar Nos Galan – stori hudol am ferch yn helpu Siôn Corn i gadw’r Nadolig ar y trywydd iawn yng nghanol rhyfeddodau’r Spiegeltent, lleoliad cwbl unigryw yn seiliedig ar babell ddrych deithiol glasurol o Wlad Belg, sydd ar dir Castell Caerdydd dros yr ŵyl. Tocynnau o £8.50 i blant a £17 i oedolion.

4. Gêm o Golff yn Treetops

Galwch heibio Treetop Adventure Golf, uwchben Canolfan Siopa Dewi Sant am antur golff bach epig. Cymerwch y Llwybr Trofannol, gan ddilyn y goedwig law a’r afon hudol neu fentrwch ar hyd llwybr hud a lledrith yr Anturiwr Hynafol, gyda themlau’n crynu a golygfeydd prydferth. Yna wynebwch yr her olaf – twll pedwar ar bymtheg – am y cyfle i ennill gêm am ddim yn y Flwyddyn Newydd. Tra’ch bod chi yno gallwch wledda ar bitsas cartref Pizza Cabana a choffi Cymreig i’ch helpu i ddal i fyny gyda’r plant!

 

5. Troi’r Nos yn Ddydd

Manteisiwch ar y cyfle i ymweld ag atyniad gaeaf mwyaf newydd Caerdydd – Goleuni’r Gaeaf – drws nesaf i Eglwys Sant Ioan, yng nghanol y ddinas. Dyma ddathliad o oleuni a chân yng nghanol Caerdydd. Mwynhewch seiniau pur y clasur werin Gymraeg ‘Ar Lan y Môr’ sy’n cael ei chanu gan gôr lleol wrth ymlacio mewn arddangosfa golau.

Neu gallech fynd amdani ac ymweld â digwyddiad Nadolig ym Mharc Bute, lle gallwch ddilyn llwybr goleuadau’r ŵyl o amgylch y coed a phrofi taith laser hypnotig sy’n creu amrywiaeth o oleuadau prydferth yn yr awyr. Tra byddwch yno, cymerwch hoe i edrych ar yr ystod o werthwyr bwyd stryd annibynnol ffynci o dan y goleuadau. Archebwch eich tocynnau ar-lein nawr i’r Nadolig ym Mharc Bute. Mae sesiynau rheolaidd rhwng 4.15pm a 7.15pm.

Mwynhewch dreulio Nos Galan yn y brifddinas gyda’ch anwyliaid, yna eisteddwch yn glud gartref, neu’ch cartref oddi cartref yn y ddinas, i groesawu’r flwyddyn newydd gyda’ch gilydd. Neu os yw’r oedolion am groesawu’r flwyddyn newydd gyda bang, cymerwch olwg ar ein rhestr o bartïon Nos Galan 2023.