Mae’r ymgyrch #CaerdyddYw yn hyrwyddo ein hagwedd, brwdfrydedd a phersbectif unigryw. Mae Caerdydd yn enwog am ei chastell yng nghanol y ddinas, ei bwytai ar y glannau, ei chwedlau chwaraeon a’i pharcdir diddiwedd.
Ond beth sy’n gwneud Caerdydd yn wirioneddol unigryw yw’r bobl. Rydyn ni’n griw cyfeillgar sy’n hoff o chwerthin ac, wrth gwrs, sy’n falch iawn o’n treftadaeth!
Mae Caerdydd yn cyfuno diwylliant amrywiol â’r cynnyrch tymhorol gorau – ac mae’r cyfan ar garreg eich drws. Ymwelwch, arhoswch. Mewn dim o dro, byddwch chi’n caru Caerdydd gymaint â ni.
CYMERWCH RAN
Rydyn ni am glywed gennych! Rydyn ni am glywed am eich hoff lefydd yng Nghaerdydd, a darganfod eich awgrymiadau arbennig. Rydyn ni am i chi sôn am ffeithiau cudd am y ddinas a’n helpu i’w rhannu â’r byd i gyd!
RYDYN NI’N CHWILIO AM
Rydyn ni’n arddangos popeth sy’n dda a thrawiadol am Gaerdydd. Rhannwch eich profiadau gyda ni, a helpwch ni i rannu’r cariad at ein dinas!