Neidio i'r prif gynnwys

Morglawdd a Ffyrdd ar gau ar gyfer cyngherddau Cyfres y Bae

Dydd Mercher 30 Awst 2023


 

Bydd y Chemical Brothers, Scooter, The Streets, ac N-Dubz i gyd yn perfformio yn Alexandra Head ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf, yn rhan o Gyfres y Bae.

Er mwyn hwyluso’r digwyddiadau hyn gyda thocyn a rheoli’r torfeydd yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau a bydd safle’r Morglawdd ei hun ar gau i bobl heb docyn, ar:

 

  • Dydd Mercher 6 Medi 16:00 – 01:00
  • Dydd Iau 7 Medi 15:00 – 01:00
  • Dydd Gwener 8 Medi 15:00 – 01:00
  • Dydd Sadwrn 9 Medi 12.00-01.00

 

Am yr amseroedd hyn, bydd ffyrdd ar gau yn:

  1. Ochr Penarth y Morglawdd – dim mynediad i gerbydau a cherddwyr at y Morglawdd.
  2. Cyffordd Cei Britannia / Pierhead Street
  3. Cyffordd Porth Teigr / Mynedfa’r Doc

 

Bydd cerddwyr a beicwyr yn cael eu hailgyfeirio i lwybrau eraill a bydd arwyddion ar waith i helpu.

Bydd modd mynd i mewn ac allan i barcio oddi ar y ffordd o dan reolaeth marsialiaid traffig, ond dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Dylai deiliaid tocynnau nodi mai ger cylchfan Porth Teigr y bydd y fynedfa a’r allanfa ar gyfer y digwyddiadau (lle mae llwybr y Morglawdd yn dechrau o ochr y Bae).