Beth wyt ti'n edrych am?
Mae Caerdydd yn cael ei hadnabod yn lleol ac yn rhyngwladol fel Dinas yr Arcedau oherwydd ei saith arcêd hanesyddol sy’n gartref i gymuned fywiog o siopau, bariau, siopau coffi a bwytai.
Mae Wythnos Dinas yr Arcedau yn dathlu Caerdydd trwy harneisio ei harcedau eiconig i arddangos busnesau unigryw, diwylliant bywiog a hanes cyfoethog y ddinas.
Drwy gydol yr wythnos bydd cynigion a digwyddiadau mewn busnesau lleol, llwybr celf ar thema anifeiliaid, arddangosfeydd lluniau hanesyddol ynghyd â llu o weithgareddau i’r teulu cyfan.
DIWRNOD DINAS YR ARCEDAU
Yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn 2019, mae Diwrnod Dinas yr Arcedau yn ôl ac yn fwy nag erioed! Ddydd Sadwrn 29 Hydref, bydd Caerdydd yn dod yn fyw gyda digwyddiadau, profiadau a chynigion mewn busnesau lleol.

NIGHT OF THE ANIMAL WALL
Mae Night of the Animal Wall yn llwybr dinas gyfan i deuluoedd yn seiliedig ar y llyfr plant ‘Night of the Animal Wall’ gan yr artist a’r awdur lleol Jack Skivens. Daw’r stori â chymeriadau wal anifeiliaid enwog Castell Caerdydd yn fyw wrth iddynt fynd ar antur yn y ddinas fawr. Yn ystod Wythnos Dinas yr Arcedau, bydd darluniau a cherfluniau wedi’u cuddio o amgylch y ddinas a chi sydd i ddod o hyd iddynt!

DDOE A HEDDIW
Archwiliwch hanes cyfoethog Caerdydd trwy lwybr ffotograffiaeth hanesyddol ledled y ddinas. Cyfle i weld lluniau o Gaerdydd o’r dyddiau a fu, a gweld sut y datblygodd y ddinas a dysgu am y bobl y tu ôl i’r busnesau.
MWY O SIOPA YNG NGHAERDYDD
Mae llawer o leoedd yng Nghaerdydd i’r rheiny sy’n chwilio am therapi siopa. Cymerwch olwg ar y cyrchfannau siopau eraill sydd yn ein prifddinas.
CAERDYDD AM BYTH
Caiff Dinas Arcedau ei chefnogi gan Caerdydd AM BYTH, sef ardal gwella busnes Caerdydd.