Beth wyt ti'n edrych am?
Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol ddeinamig syân ffynnu gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.
Os ydych chi'n chwilio am eich gwyliau nesaf mewn dinas ddiwylliannol, dewch i Gaerdydd ac fe gewch eich swyno gan ddigonedd o atyniadau diwylliannol arobryn, sefydliadau celfyddydol gwych a'u rhaglenni trawiadol wedi'u curadu. O ran diwylliant mae rhywbeth i bawb yng Nghaerdydd; sin gerddorol syân tyfu; un o'r casgliadau mwyaf o gelf argraffiadol yn y byd; Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, a lleoliad âcelfyddydau ymgolliâ cyntaf Ewrop.

CERDDORIAETH
Mae Cymru’n adnabyddus ledled y byd fel Gwlad y GĂąn, ond a wyddech chi fod Caerdydd wedi cael ei datgan yn ddinas gerddorol gyntaf y DU yn ddiweddar? Drwy gynnal digwyddiadau fel ‘BBC Canwr y Byd Caerdydd’ a gwyliau aml-leoliad yn dathlu artistiaid amrywiol a blaengar fel ‘SĆ”n’ a ‘GĆ”yl y Llais’ mae’n hawdd gweld pam.Â
Mae Caerdydd yn gartref i leoliadau cerddoriaeth fyw gwych; o un o stadia mwyaf blaenllaw’r byd i dafarndaiân cynnal gigiau bychain, syân anadl einioes iâr byd cerdd sy’n blodeuo yn y ddinas, gan gynnwys artistiaid pop Cymraeg a bandiau âgrimeâ go iawn. Â Ewch lawr i Stryd Womanby, canolbwynt y sĂźn gerdd leol ar unrhyw noson o’r wythnos, lle cewch hyd i fywyd nos cyffrous a cherddoriaeth fyw yn seinio allan iâr stryd. Mae’r ddinas hefyd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y mae’r ddau ohonynt Ăąâu pencadlys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

CELF GYFOES A CHAIN
Mae Caerdydd yn gartref i ddigwyddiadau celf gyfoes diddorol; yn amrywio o wobr celfyddyd gyfoes fwyaf y DUÂ ‘Artes Mundi’ i osodiadau cyffrous dros dro ac arddangosfeydd celf byrhoedlog gan gwmnĂŻau celf cydweithredol fel TactileBOSCH. Mae gan Gaerdydd hefyd amrywiaeth o orielau, oâr bach iâr mawr y gallwch ymweld Ăą hwy drwy gydol y flwyddyn sy’n arddangosfa gweithiau gan rai o artistiaid mwyaâr byd ac ymarferwyr lleol.Â
Ers dros 40 mlynedd maeâr Chapter wedi bod yn lleoliad aml-blatfform uchelgeisiol sy’n cyflwyno, yn cynhyrchu ac yn hyrwyddo celf ryngwladol, perfformiadau byw a ffilmiau ochr yn ochr Ăą bar ac ardal gaffi ddeinamig sy’n boblogaidd gyda phobl leol.

FFILMIO A FFOTOGRAFFIAETH
Mae Caerdydd yn ddinas wych i bobl syân hoff o ffilmiau aâr sgrin! Bob blwyddyn mae’r ddinas yn cynnal nifer o wyliau ffilm a ffotograffiaeth. Yn y gwanwyn, mae Caerdydd yn dod yn oriel ar gyfer ‘Diffusion’, GĆ”yl Ffotograffiaeth Ryngwladol, a phob hydref maeâr ddinas yn cynnal yr Ć”yl ffilm LHDT+ âGwobr Irisâ. I ddarganfod rhywbeth gwirioneddol ryfeddol ewch i ‘CULTVR’, lleoliad cyntaf Ewrop ar gyfer y celfyddydau ymgolli gydaâi sinema 360Âș.
Ar gyfer âcinephilesâ, ewch i sinema ‘arthouseâ y Chapter lle cewch hyd i amrywiaeth eang o ffilmiau tramor, annibynnol a chelf. Yng Nghaerdydd cewch hefyd hyd i IMAX a 4DX. O ie, a wnaethon ni grybwyll mai ni yw’r ddinas rataf yn y DU i weld ffilm, gyda’r pris cyfartalog yn ÂŁ4 i oedolyn?

THEATR A CHELFYDDYDAU PERFFORMIOÂ
Mae Caerdydd yn gartref i rai o’r sefydliadau celfyddydau perfformio mwyaf arloesol yn y DU gan gynnwys cwmni syrcas cyfoes mawr mwyaf blaenllawâr DU, ‘NoFit State’ a chwmnĂŻau cenedlaethol sydd Ăą statws rhyngwladol fel Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae Caerdydd hefyd yn gartref i leoliadau o’r radd flaenaf, yn amrywio o un o’r llwyfannau mwyaf yn Ewrop yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sy’n arbennig yn bensaernĂŻol, i’r diddos a’r rhyfedd, fel ‘The Other Roomâ, theatr dafarn gyntaf Caerdydd.

TREFTADAETH
Mae gan Gaerdydd gyfoeth o atyniadau treftadaeth i roi boddhad i bawb, gan gynnwys y rhai syân dwlu ar hanes a phensaernĂŻaeth. Yng nghalon y ddinas, mae muriau a thyrau tylwyth teg Castell Caerdydd yn celu dros 2,000 mlynedd o hanes.Â
Ychydig y tu allan i ganol y ddinas fe welwch Eglwys Gadeiriol Llandaf sy’n sefyll ar un o’r safleoedd Cristnogol hynaf yn Ynysoedd Prydain, lle mae pobl wedi addoli ers canol y chweched ganrif. Byddwch hefyd yn darganfod Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, syân un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Mae Caerdydd wir yn drysorfa o safleoedd hanesyddol a threftadaeth sydd ond yn aros i gael eu darganfod.