Neidio i'r prif gynnwys

CARDIFF MARRIOTT HOTEL

Gwesty moethus, yng nghalon Ardal Caffis cosmopolitan canol dinas Caerdydd

Cardiff Marriott Cardiff Marriott Cardiff Marriott Cardiff Marriott

Tritiwch eich hun i wasanaeth 4 seren a lleoliad heb ei ail yng nghalon y ddinas yma yng Ngwesty’r Marriott Caerdydd. Beth bynnag eich rheswm dros ymweld â phrifddinas Cymru, byddwch wrth eich bodd â’n llety modern, dewisiadau gwledda ar y safle a pha mor agos yw’r gwesty at dirnodau poblogaidd.

Mae’r ystafelloedd a’r switiau mawr a chyffyrddus yn cynnig Wi-Fi am ddim, gwely moethus, lle gweithio mawr a gwasanaeth ystafell 24 awr.

Mae Bwyty Market Kitchen yn cynnig bwyd ffres o Gaerdydd a rhannau eraill o Gymru. Mae Caffi-Bar Brew yn cynnig teras, awyrgylch braf a digwyddiadau chwaraeon ar y ddwy sgrin fawr.

Bydd y rheiny sy’n trefnu cyfarfodydd yng nghanol Caerdydd yn gwerthfawrogi ein hystafell gynadledda ar y safle, sy’n gallu dal hyd at 400.

Gydag atyniadau canol y ddinas yn cynnwys Stadiwm Principality ond ychydig funudau i ffwrdd, bydd gennych ddigon i’ch cadw’n brysur yn ystod eich ymweliad. Trefnwch eich arhosiad nawr yng Ngwesty 4 seren Marriott Caerdydd!

Ffôn

029 2039 9944

E-bost

mhrs.cwldt.front.desk@marriotthotels.com

Cyfeiriad

Mill Lane, Caerdydd CF10 1EZ