Neidio i'r prif gynnwys

Mae Crefft yn y Bae yn cynnig llwyfan cyfnewidiol o Grefftau Cyfoes gorau Cymru, ewch yno heddiw i brynu crefftau unigryw a hardd o Gymru.

ORIAU AGOR

Llun - Gwe

10:30-17:30

Sad - Sul

10:30-17:30

Y gorau o blith Crefftau Cyfoes Cymru. Llwyfan cyfnewidiol o o’r goreuon yng Nghymru – yn Emyddion, Artistiaid Tecstilau, Ceramegwyr, gweithwyr Metel, dylunwyr bagiau lledr, gwneuthurwyr celfi ac ati…

Y cwbl wedi eu Gwneud yng Nghymru gan aelodau o Urdd Gwneuthurwyr Cymru.

Fel Elusen Celf Annibynnol, ffurfiwyd Urdd Gwneuthurwyr Cymru ym 1984 fel cydweithfa i wneuthurwyr ac rydym yn parhau i gadw yr ethos yna heddiw, bob diwrnod bydd gwirfoddolwr wneuthurwr gwahanol yn rhoi o’u hamser i helpu yn yr oriel, fel y gallwch ddysgu am y gwaith celf a ddewiswyd yn unigol yn eich pwysau a chwrdd a siarad â’r gwneuthurwyr.

Cymerwch olwg ar ein harddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol o greffau cyfoes a chelfyddyd gynhwysol. Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru hefyd yn cynnal gweithdai Crefft lle gallwch ddysgu sgiliau crefft a chreu eich crefftwaith eich hun, mae’r gweithdai hyn yn addas i bob oed a gallu.
Wedi ei leoli ar ‘Y Rhodres’ ym mhen deheuol Rhodfa Lloyd George, gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm, mae oriel Crefft yn y Bae wedi ei chreu o Sied ‘D’ wedi ei hail-wampio, warws morwrol Gradd II o gyfnod Oes Fictoria ynghyd ag estyniad modern.

Ffôn

029 2048 4611

E-bost

admin@makersguildinwales.org.uk

Cyfeiriad

Lloyd George Avenue, Cardiff, CF10 4QH