Neidio i'r prif gynnwys

DEPOT yw'r gofod warws eithaf a lleoliad gwreiddiol, mwyaf cyffrous Caerdydd; yn gartref i ddigwyddiadau pop-up mwyaf creadigol y ddinas.

ORIAU AGOR

Llun - Gwe

09:00 - 17:00

Sad - Sul

10:00 - 22:00

Mae’r Depot ar agor nawr ar gyfer cymdeithasu bwyd stryd awyr agored sydd wedi’i bellhau’n gymdeithasol.

Archebwch ar-lein yma.

Depot Depot Depot Depot

Ers agor  ei ddrysau ym mis Tachwedd 2015, mae DEPOT wedi hen sefydlu ei hun fel lleoliad mwyaf cyffrous a gwreiddiol Caerdydd, a chartref i ddigwyddiadau mwyaf creadigol y ddinas.

Mewn hen warws 24,000 troedfedd sgwâr, DEPOT oedd y cyntaf i gynnig lleoliad bwyd stryd dan do, parhaol, i bobl Caerdydd, ac mae’r sesiwn Bwyd Stryd wythnosol bellach yn rhedeg bob dydd Sadwrn drwy gydol y flwyddyn. O lansio clwb speakeasy cudd, i gynnal gŵyl gwrw annibynnol cyntaf Cymru, mae DEPOT yn parhau i ddatblygu, gan ddod â digwyddiadau newydd a gwreiddiol i’r ddinas ac ennill ei blwyf fel Y lle i fynd am noson allan go wahanol.

BINGO LINGO

Depot yw cartref BINGO LINGO. Bingo Lingo yw’r datblygiad diweddaraf cyffrous yn hanes y gêm hon sy’n boblogaidd ledled y DU. Rydym ni wedi ailwampio bingo ac wedi’i droi yn noson parti bingo, gwirion, gwallgo! Mae BINGO LINGO yn un o’n brandiau cryfaf ac mae bellach yn ffenomenon. Rydym nawr yn teithio ledled y DU, o Fryste, i Gaerfaddon, Brighton a thu hwnt. Gallwch ddisgwyl profiad a hanner gan gynnwys cystadlaethau dawnsio, twercio, gwobrau doniol a cham-bihafio ar y llwyfan. Mae hon yn noson bingo gwirion bost na fedrwch fforddio ei cholli!

BWYD STRYD

DEPOT yw cartref bwyd stryd yng Nghaerdydd. Yn dilyn ei lansio yn 2015 gan sefydlu’r lleoliad Bwyd Stryd pwrpasol cyntaf yn y ddinas, mae Depot yn parhau i arloesi yn y maes. Ym mhob digwyddiad yn Depot, mae’r masnachwyr bwyd stryd gorau yn cyflwyno seigiau blasus ysbrydoledig.

Mae fformiwla Depot o gyfuno digwyddiadau ar y thema bwyd stryd gydag adloniant wedi arwain at rai digwyddiadau gwych megis Pizza a Prosecco a Taco a Tequila. Mae Pizza a Prosecco wedi mynd ar daith o amgylch y DU gan gynnwys Manceinion, Caeredin a Llundain.

Ond rydym ni’n rhagori mewn mwy na bwyd stryd. Rydym yn creu digwyddiadau gwych yn seiliedig ar ddiodydd hefyd megis Ginstock, Brewfest a’n Dark Fruits Festival i enwi dim ond rhai.

Ar Fws

Yr arhosfan bysiau agosaf yw Dumballs Road Middle.

Ar y Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Caerdydd Canolog.

Ffôn

029 2034 1199

E-bost

info@depotcardiff.com

Cyfeiriad

Construction House, 22 Dumballs Road, Cardiff, CF10 5FE