Neidio i'r prif gynnwys

CANOLFAN GELFYDDYDAU'R EGLWYS NORWYAIDD

Canolfan Gelfyddydau eiconig yr Eglwys Norwyaidd... wrth galon y dociau, ynghanol y Bae.

ORIAU AGOR

Llun - Gwe

10:30 - 17:00

Sad - Sul

10:30 - 17:00

Croeso.  Welcome. Velkommen.

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yn lleoliad perfformio, digwyddiadau a dathlu amlochrog yng nghanol Bae Caerdydd.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd a chynadleddau, digwyddiadau unigryw, priodasau ac arddangosfeydd, yn ogystal â chynhyrchu a chyflwyno perfformiadau, gigs a chyngherddau.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich amser gyda ni yn hapus ac yn rhydd rhag straen.

Teithiwch i’r Bae a bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.  Galwch heibio i gael blas ar Far Caffi a Theras Norsk – mwynhewch sleisen flasus o gacen gyda’n cyfuniad coffi unigryw ‘Norsk – Coffi Cymreig’, sy’n cael ei rostio’n arbennig i ni gan Quantum Coffee Roasters… mae’n fendigedig.

Neu gallech roi cynnig ar fwyd stryd ardderchog ein harlwywyr mewnol gwych, Yorkshire Wrap {Classic Food Caterers}.

Neu efallai mai eistedd yn ôl, mwynhau ac ymlacio gyda diod oer sy’n mynd â’ch bryd – yn yr awyr agored ar ein Teras yn llygad yr haul, yn mwynhau’r golygfeydd godidog dros Fae Caerdydd.

Dewch bobl, dewch i’r Bae!

Mae’n bryd mynd ar bererindod … i’r eglwys!

Ffôn

02920 492261

E-bost

gareth@norwegianchurchcardiff.com

Cyfeiriad

Rhodfa’r Harbwr, Caerdydd, CF10 4PA