Neidio i'r prif gynnwys

HOLIDAY INN EXPRESS BAE CAERDYDD

Mae’r Holiday Inn Express Bae Caerdydd yn westy glân dŵr modern mewn lleoliad cyfleus rhwng y Bae a chanol y ddinas.

Holiday Inn Express Cardiff Bay Holiday Inn Express Cardiff Bay Holiday Inn Express Cardiff Bay Holiday Inn Express Cardiff Bay Holiday Inn Express Cardiff Bay Holiday Inn Express Cardiff Bay

Mae gwesty’r Holiday Inn Express, Bae Caerdydd, wedi leoli ar lannau’r afon ger hen Ddoc y Dwyrain ym Mae Caerdydd. Bymtheg munud ar droed o’r gwesty mae canol y ddinas, gyda chanolfan siopa gyfoes ragorol Dewi Sant, arcedau hudolus, Marchnad Fictoraidd Dan Do ymhlith llawer o fanwerthwyr poblogaidd eraill.

Bum munud ar droed tua’r cyfeiriad croes i’r gwesty mae Canolfan Mileniwm Cymru a chanolfan Red Dragon ac ambell funud ymhellacj mae Cei’r Fôr-forwyn yn y Bae, gyda’r amrywiaeth wych o farrau a bwytai at ddant pawb. Mae’r maes awyr agosaf (Maes Awyr Caerdydd) ond 12.3 milltir i ffwrdd ac mae’r orsaf drenau agosaf (Gorsaf Drenau Bae Caerdydd) ond 0.4 milltir i ffwrdd o’r gwesty.

Mae’r gwesty ei hun yn cynnig ystafelloedd â phopeth sydd ei angen arnoch i fwynhau gwyliau cyfforddus iawn yn y ddinas, gan gynnwys Wi-Fi am ddim, cawod bwerus, cyfleusterau paratoi te a choffi yn yr ystafell wely, dewis o glustogau a mwy. Gallwch hefyd ddefnyddio’r bar yn ardal orffwys y gwesty, ac mae brecwast bwffe am ddim bob bore yn ystod eich cyfnod yn y gwesty er mwyn cael y dechrau gorau posibl i’ch diwrnod yn y ddinas.

Y tro nesaf i chi chwilio am lety ym Mae Caerdydd, beth am edrych i weld a oes ystafelloedd ar gael yn Holiday Inn Express, Bae Caerdydd? Mae gan y gwesty bopeth sydd ei angen arnoch i allu fwynhau gwyliau hyfryd a chyffyrddus, mae wedi’i leoli yn y lleoliad perffaith ac mae ganddo rhai o’r prisiau mwyaf fforddiadwy yn y ddinas.

Dewiswch Holiday Inn Express, Bae Caerdydd a byddwch yn gwybod fod gennych le gwych i ddychwelyd iddo pan fyddwch yn yr ardal eto.

Ffôn

029 2044 9000

E-bost

reservations@exhicardiff.co.uk

Cyfeiriad

Longueil Close, Ffordd y Sgwner, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4E