Neidio i'r prif gynnwys

MORGLAWDD BAE CAERDYDD

Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn berffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol neu daith ar gefn beic - mae mewn safle arforol prydferth ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o Aber Afon Hafren.

Cardiff Bay Barrage Cardiff Bay Barrage Cardiff Bay Barrage Cardiff Bay Barrage

Yn berffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol neu daith ar gefn beic, mae’r Morglawdd mewn safle arforol prydferth ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o Fae Caerdydd ac Aber Afon Hafren. Gan ei fod yn wastad, mae’n hygyrch i bob ymwelydd.

Mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden yn cael eu cynnal ar hyd y Morglawdd yn y maes chwarae i blant, yn y Sgwâr Sglefrio ac yng nghampfa awyr agored adiZone. Gall ymwelwyr hefyd gael golwg ar yr arddangosfeydd am ddim, eistedd a chael hun-lun gyda’r Crocodeil Enfawr, a chael seibiant yng Nghaffi Hafren, sy’n cael ei redeg gan yr RSPB.

Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Ffôn

029 2087 7900

E-bost

CardiffHarbour@cardiff.gov.uk

Cyfeiriad

Penarth Portway, Bae Caerdydd, Caerdydd CF64 1TQ