Neidio i'r prif gynnwys

Sefydlwyd Oriel Martin Tinney ym 1992 ac mae bellach yn cael ei hystyried yn oriel gelf gyfoes breifat flaenaf Cymru.

ORIAU AGOR

Maw - Gwe

10:00 - 18:00

Sad

10:00 - 14:00

Mae’r oriel yn arbenigo mewn artistiaid o Gymru ac sy’n gweithio yng Nghymru, rhai o’r radd flaenaf, ddoe a heddiw. Symudon ni i’n safle presennol yn 2002, wedi i ni wneud gwaith ailwampio sylweddol iawn ar dŷ tref o’r 19eg ganrif, gydag estyniad newydd sbon, a thri llawr o ofod arddangos hyfryd.

Mae’r oriel yn arddangos gwaith gan artistiaid byw blaenaf Cymru, gan gynnwys Harry Holland, Sally Moore, Shani Rhys James a Kevin Sinnott, yn ogystal â’r goreuon o blith y genhedlaeth iau. Yn ogystal, mae gennym waith gan brif artistiaid Cymreig yr 20fed ganrif, gan gynnwys Gwen John, Augustus John, Ceri Richards, David Jones, Sir Cedric Morris, John Piper, Graham Sutherland, Josef Herman, Peter Prendergast, Syr Kyffin Williams, Evelyn Williams a Gwilym Prichard. Mae arddangosiadau unigol misol yn y brif oriel, ac arddangosfeydd dros dro o baentiadau, printiadau a cherfluniau ar y ddau lawr arddangos arall. Mae gennym lawer o waith yn ein storfa hefyd, y gellir eu gweld ar gais.

Mae ein cleientiaid yn cynnwys sefydliadau cyhoeddus fel Oriel y Tate, Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a llawer o gleientiaid preifat ym Mhrydain a gweddill y byd. Ni yw’r unig oriel o Gymru sy’n arddangos yn gyson mewn ffeiriau celf, gan gynnwys Ffair Gelf Llundain a Ffair Gelf Prydain 20/21, ac rydym yn hyrwyddo celf o Gymru mewn arddangosiadau rheolaidd yn Llundain a’r tu hwnt. Rydym yn aelodau o S.L.A.D. – The Society of London Art Dealers.

Mae’r awyrgylch yn gyfeillgar ac yn anffurfiol. Os ydych chi’n chwilio am un darn o gelf neu mae gennych ddiddordeb mewn creu casgliad sylweddol o gelf Gymreig, dyma’r lle i ddod.

Ffôn

029 2064 1411

E-bost

mtg@artwales.com

Cyfeiriad

18 Cilgant St. Andrew, Caerdydd, CF10 3DD