Neidio i'r prif gynnwys

PROFIAD Y BATHDU BRENHINOL

Mewn Profiad y Bathdy Brenhinol, datgloi 1100 mlynedd o hanes mewn cynhyrchu darnau arian a hyd yn oed daro'ch darn arian eich hun.

ORIAU AGOR

Llun - Gwe

09:30 - 17:30

Sad - Sul

09:30 - 17:30

Profiad y Bathdy Brenhinol Profiad y Bathdy Brenhinol Profiad y Bathdy Brenhinol Profiad y Bathdy Brenhinol

Dewch i ddarganfod 1,100  flynyddoedd o hanes yn Profiad y Bathdy Brenhinol. Dysgwch am y broses o fathu darnau arian, o baratoi’r disgiau metel plaen i greu eich darn arian eich hun.

Ychydig o fanylion am y daith ffatri – Mae ein gwasgfeydd yn bathu oddeutu 750 o geiniogau bob munud, yn gyflymach nag y gall y llygad weld! Gall ein gwesteion ddechrau eu casgliadau darnau arian gan fynd â darn arian arbennig adref gyda nhw, y gwnaethant helpu ei fathu. Gydag un bathiad bydd eich disg wag yn troi’n ddarn arian o’r DU. Mae’r darn arian a gaiff ei fathu yn newid ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn.

Dewch i ddarganfod ein chwe gwahanol ardal arddangos ar eich cyflymder eich hun. Mae’r ardaloedd hyn yn gartref i rai o’r arteffactau hanesyddol pwysicaf yn hanes y Bathdy Brenhinol o 1,100 mlynedd. Mae rhai o’r darnau arian ac eitemau sydd gennym ni yma ymysg y mwyaf prin yn y byd, gallwch weld gyda’ch llygaid eich hun ceiniog Alfred Mawr sy’n 1,100 oed, sef dechrau hanes hir y Bathdy Brenhinol a hefyd bydd cyfle i edmygu’r sofran aur sydd wedi dod yn un o ddarnau arian enwocaf y byd.  Y bathdy mwyaf sy’n allforio yn y byd, rydym yn gwneud darnau arian i ddwsinau o wledydd bob blwyddyn. Gallwch weld darnau arian o 80 o wahanol wledydd yn ein harddangosfa. Gall y gwesteion godi bar aur 400oz sy’n werth tua £400.000! Dyma gyfle sy’n dod unwaith mewn bywyd a’r unig le y gallwch wneud hyn yng Nghymru.

Mae arddangosfeydd dros dro yn ategu’r casgliad parhaol. Ar hyn o bryd, yr arddangosfa dros dro yw “O Lundain i Lantrisant” sy’n dangos hanes y Bathdy Brenhinol dros y 50 mlynedd diwethaf; pam symudodd o Lundain i Gymru, datblygiadau technolegol a phrofiadau pobl sydd wedi gweithio yno.

Yn newydd yn 2019

Teithiau VIP, cyfle unigryw i gael cip y tu ôl i’r llenni a gweld mwy o’r hyn sydd ar gynnig yn y Bathdy Brenhinol. Dewch i nabod y tîm ar lawr y wasg darnau arian, profwch hanes nad yw’n cael ei arddangos ac edrych ar yr offer a ddefnyddir i greu ein darnau arian.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gweithdai yn ystod gwyliau’r ysgol, cyfresi sgwrs a llawer mwy! Mae’r Siop Anrhegion ar y safle yn ddelfrydol ar gyfer cofroddion y gallwch fynd â nhw adref, dechrau casgliad neu i ddod o hyd i anrheg ar gyfer achlysur arbennig.

GWYBODAETH I YMWELWYR

Tocynnau a Phrisiau
  • Oedolion (16+) – £13.00
  • Plant (5-15) – £10.50
  • Henoed (60+) – £11.50
  • Myfyrwyr (Angen ID) – £11.50
  • Teuluoedd (2 Oedolyn+2 Plentynd / 1 Oedolyn+3 Plentyn) – £38.50
  • Dan 5 Mlwydd Oed – £0.00
  • Pecyn Aur Teulu – £69.99
Bwyd a Diod

Mae caffi ar y safle gyda lluniaeth poeth ac oer ar gael rhwng 09:30 a 17:30 (mae bwyd poeth yn cael ei weini tan 2.30pm), a all eistedd hyd at 90 o bobl yn gyffyrddus. Mae croeso i chi ymweld â’r caffi cyn neu ar ôl eich taith, mae’r fwydlen yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys prydau heb glwten, llysieuol a fegan.

CYRRAEDD PROFIAD Y BATHDU BRENHINOL

CYSYLLTWCH Â PROFIAD Y BATHDU BRENHINOL

Ffôn

0333 241 2223

E-bost

customer.services@royalmint.com

Cyfeiriad

Llantrisant, Pontyclun, CF72 8YT