Neidio i'r prif gynnwys

VOCO ST DAVID'S

Mae Gwesty voco Dewi Sant Caerdydd wedi’i leoli mewn man anhygoel ym Mae Caerdydd, gyda golygfeydd gwych o’r bae a Marina Penarth.

Mae Gwesty Dewi Sant Caerdydd wedi’i leoli mewn man anhygoel ym Mae Caerdydd, gyda golygfeydd gwych o’r bae a Marina Penarth. Mae’n westy penigamp 5 seren (yr unig un yng Nghaerdydd) AA yng Nghaerdydd ac mae’n safle moethus iawn ar gyfer naill ai seibiant byr, cynhadledd, priodas, dathliad neu gyfnod o ymlacio.

Profwch y gwahaniaeth yn yr ystafelloedd Principal Deluxe ar eu newydd wedd, gyda ffenestri mawr sydd â golygfeydd panoramig o Fae Caerdydd. Perffaith i fusnes neu bleser.

Mae’r gwesty o fewn cyrraedd hawdd y prif rwydweithiau trafnidiaeth a dim ond 2 awr o Lundain. P’un ai a ydych yn cynnal derbyniad mawr, dathliad preifat neu noswaith â thema, Gwesty Dewi Sant Caerdydd yw’r lleoliad perffaith yng Nghaerdydd i’ch digwyddiad arbennig.

Mae lleoliad blaen dŵr y gwesty’n cynnig opsiynau cyffrous gan gynnwys tripiau cychod cyflym, cyrsiau hwylio a gwylio natur yn y warchodfa natur wrth y gwesty. Mae rafftio dŵr gwyn, golff a gweithgareddau eraill ar gael gerllaw.

Mewn car

 Llywio lloeren: 51.460459, -3.167272  Gadewch draffordd yr M4 yng Nghyffordd 33 a dilynwch arwyddion i’r A4232.  Arhoswch ar y ffordd ddeuol am tua 9 milltir/14.5 cilomedr tua Bae Caerdydd a gadewch yr A4232 (allanfa Techniquest) yn uniongyrchol ar ôl croesi’r bae a chyn y twnnel tanddaearol. Yn y gylchfan, ewch i’r chwith gyntaf, yna’r dde cyn Techniquest i Havannah Street.  Mae gennym lefydd parcio gyda’r dydd os oes lle, ac yn codi £20 am gyfnod o 24 awr.

Ar drên

Mae Gorsaf Caerdydd Canolog taith dacsi fer i ffwrdd ac mae Birmingham, Manceinion a Llundain Paddington ond yn ddwyawr ar y trên. Byddwn yn hapus i drefnu tacsi i chi os gofynnwch i ni wrth archebu. Mae’r gwesty hefyd ond yn daith fer o brif ardal Bae Caerdydd lle gallwch ddal Bws y Bae rhif 6. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu'n barhaus yn ystod y dydd ac yn gadael bob 10 munud, yn teithio’n uniongyrchol i ganol y ddinas.

Ffôn

029 2045 4045

E-bost

stdavidsenquiries@ihg.com

Cyfeiriad

Stryd Havannah, Caerdydd CF10 5SD