Beth wyt ti'n edrych am?
AWYDD GWYLIAU TEULUOL PEDWAR DIWRNOD YM MAE CAERDYDD?
Gadewch i Groeso Caerdydd eich trin i egwyl mewn gwesty ym Mae Caerdydd gyda gweithgareddau i’ch cadw chi a’r teulu’n ddiddan drwy gydol eich arhosiad!
BETH GALLWCH EI ENNILL?

TOCYNNAU AR GYFER TECHNIQUEST
Tocynnau Teulu â mynediad i’r lloriau arddangos i ddarganfod modelau llesmeiriol, peiriannau gwych ac arddangosfeydd rhyngweithiol i ddrysu’r meddwl: lansiwch roced, rhowch gynnig ar lawdriniaeth rithwir, profwch ddaeargryn go iawn a hyd yn oed deimlo grym corwynt! HEFYD – tocynnau i Sioe Theatr Wyddoniaeth tra byddwch chi yno!

PARC HWYL I DEULUOEDD BAE CAERDYDD
Ddim ymhell iawn o’r gwesty, mae’r Parc Hwyl i’r Teulu ym Roald Dahl Plass, yn y Basn Hirgrwn. Dyma gyfle gwych i’r teulu ollwng stêm a mwynhau holl hwyl y ffair.
Mae’r reidiau yn aros amdanoch gyda 15 tocyn i chi a’ch teulu, teganau meddal ar gyfer y plant a thalebau hufen iâ i bawb!
TELERAU AC AMODAU
- Mae’n rhaid hawlio’r wobr hon rhwng dydd Llun 23 Awst 2021 a dydd Iau 26 Awst 2021 ac ni ellir cyfnewid na throsglwyddo’r wobr hon, na’i newid am arian parod neu wobrau eraill.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner nos ddydd Sul 16 Awst 2021 a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi trwy gyfryngau cymdeithasol Croeso Caerdydd.
- Cymerir yn ganiataol fod ymgeiswyr ar gyfer y gystadleuaeth wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.
- Mae Croeso Caerdydd yn cadw’r hawl i newid y wobr i wobr o’r un gwerth neu werth mwy ar unrhyw adeg.
- Nid yw costau teithio wedi’u cynnwys.
- 1 prif gwrs o’r Fwydlen Bwyta Drwy’r Dydd bob nos i bob oedolyn a photel o win i’w rhannu. Prydau plant bob nos gyda diodydd meddal diderfyn o’r pwmp.
- Mae brecwast wedi’i gynnwys bob dydd.Â
- Gellir hawlio’r wobr rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
- Rhaid ei defnyddio o fewn 3 mis
- Rhaid hawlio tocynnau yn ystod arhosiad y gystadleuaeth.
- 15 tocyn reid i’r teulu.
- Teganau mawr meddal i’r plant.
- Un tocyn hufen iâ fesul aelod o’r teulu.