Neidio i'r prif gynnwys

CAERDYDD, DINAS SY'N CROESAWU CŴN

Pan fo gennych chi gyfaill bach blewog, gall fod yn anodd weithiau dod o hyd i bethau i’w wneud gydag e, ond sut allen ni eu gadael nhw gartref gyda llond dinas o bethau i gŵn bach eu mwynhau?

Dyma Teddy a Norman, fy nau Bomeranian. Pan nad ydyn nhw’n cymryd troeon i ddwyn bwyd ei gilydd, maen nhw wrth eu boddau’n crwydro Caerdydd gyda mi. Fel mae’n digwydd, mae Caerdydd yn ddinas llawn pobl sy’n dwlu ar gŵn, felly mae bob amser drît neu ddau rownd y gornel!

Os ydych chi am grwydro drwy’r ddinas gyda’ch cyfaill pedwar coes, mae profiad arbennig o’ch blaenau.

Codi gyda’r Wawr!

Maen nhw’n dweud bod cael plant yn golygu diwedd cysgu’n hwyr am byth! Ond ceisiwch edrych ar ôl Norman am benwythnos. Mae’n codi bob bore am 7 ar ei ben eisiau i rywun rhwbio’i fola. O leiaf mae’n esgus gwych i fynd i un o’n hoff gaffis brecwast yng Nghaerdydd – Caffi’r Early Bird. Mae yno fara a theisennau wedi’u pobi ar y safle, coffi ffres a bwydlen frecinio heb ei hail. Mae croeso i’r bois bach y tu mewn a’r tu allan ar y patio. Ac maen nhw’n cael eu tamaid cyntaf y dydd pan ddaw un o’r cogyddion â sosej iddyn nhw ei lowcio.  O leiaf mae hynny’n eu cadw’n brysur wrth i ni fwyta’n brecwast, ac allwn ni ddim gadael heb brynu toesen cacen gaws mefus ffres.

Amser i losgi calorïau’r brecwast

Mae gan Gaerdydd dros 300 o barciau a gerddi, felly does byth prinder llefydd i fynd am dro. Hoff le Teddy yw caeau Llandaf am un rheswm: mae bob amser bicnic neu ddau y gall darfu ar eu traws. Dyma hefyd fy hoff le achos gallwn ni grwydro i Kings Road Yard ar ddydd Sadwrn i fwynhau Marchnad Ffermwyr Pontcanna sy’n gwerthu cynnyrch lleol ffres. Boed law neu hindda, mae rhywle i loetran gyda’r cŵn ar Kings Road. Cawn ein dal gan y fath gawod drom y mae Cymru yn enwog amdani a dyma ni’n mynd ar ein  hunion i Kemi’s Pontcanna ar draws y ffordd gyda dau gi bach gwlyb braidd.

Mae’r perchenogion, Kemi a’r mab Pat, yn gweini cynnyrch organig a lleol. Mae’r cabinet nwyddau pob wastad yn llawn dop o deisennau, pasteiod a thrîts figan ffres. Efallai nad yw’r bar snickers heb ei goginio’n swnio’n arbennig, ond mae’n drît heb ei ail.  Mae’r bois yn treulio’r holl amser yn syllu â llygaid mawr annwyl ar bawb i geisio tamaid, ond yn ddigon ffodus does neb am colli dim o’u bwyd i’r ddau fach ddireidus y tro yma!

Cŵn bach a thafarnau – y cyfuniad perffaith!

Efallai fy mod yn hanu o Lundain, ond mae Caerdydd yn deall beth yw tafarn dda. Rydyn ni’n crwydro ar hyd Heol y Gadeirlan lle mae digon o lefydd sy’n croesawu cŵn; mae’r Halfway, y Pontcanna Inn a’r Brewhouse & Kitchen yn eu derbyn, ac mae ganddyn nhw drîts blasus hefyd. Mae hynny’n ddigon i ddal eu sylw wrth i ni gael peint slei o Haka’ed Off yn y Brewhouse. Gyda Chwpan Rygbi’r Byd ar y gorwel, sut allen ni beidio â dewis y cwrw hwn a ysbrydolwyd gan gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ym 1905? I godi ofn ar dîm di-guro’r Crysau Duon â’u haka brawychus, arweiniodd Teddy Morgan y tîm tan ganu Hen Wlad Fy Nhadau ac, wrth gwrs, ymunodd y dorf o 47,000 yn y canu. Gwlad y gân a gwlad y cwrw yn wir!

Maldod a Moethusrwydd

Mae gan Arcêd y Castell dros 150 mlynedd o hanes manwerthu Cymreig a chyda hynny ddigonedd o fusnesau sy’n ddigon hapus i gŵn alw draw. Awn am y Science Cream, parlwr hufen iâ nitrogen hylifol cyntaf Cymru (a’r unig un hyd yma). Mae hyd yn oed Teddy a Norman yn cael eu swyno gan y cymylau mwg sy’n dod o’r gwydrau; er ei bod yn bosib hefyd mai’r hufen iâ caramel pecan sy’n eu temtio.  Dw i’n teimlo’n euog am wneud iddyn nhw edrych arna i’n llowcio fy mhwdin ond mae trip cyflym i Fae Caerdydd yn golygu y gallwn aros yn Cadwaladers, parlwr hufen iâ sy’n cynnig mwy na golygfeydd gwych dros y môr. Maen nhw hefyd yn gwerthu iogwrt iâ yn benodol i gŵn!

Amser Gwely

Gyda’r pawennau’n dechrau blino, mae’n amser mynd yn ôl i Dreganna ond mae digonedd o westyau yn y ddinas sy’n croesawu anifeiliaid anwes. Mae gwestyau canolog y Mercure a’r Novotel yn rhoi croeso gwresog iddynt am ffi fechan ychwanegol. Os ydyn nhw’n dod â pherchennog cyfrifol, wrth gwrs.


Mae’r blog gwadd hwn wedi ei ysgrifennu gan Cassie, neu ‘Proper Lush‘ fel y caiff ei hadnabod hefyd. Mae Cassie yn flogwraig leol wych sy’n gwybod pob dim am Gaerdydd. I gael gwybodaeth a chyngor da, dilynwch hi ar y cyfryngau cymdeithasol ac ewch i’w gwefan.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.