Mae hanes Caerdydd yn dyddio nôl dros 2000 o flynyddoedd.

Mae gan ddiwylliant cyfoethog Caerdydd amrywiaeth o ddylanwadau, gan gynnwys Rhufeiniaid a Normaniaid yr oesoedd cynnar, y chwyldro diwydiannol a’r diwydiant glo – a drawsnewidiodd Caerdydd o dref fach i ddinas ryngwladol ffyniannus.

Tarddiad yr Enw
Ceir dwy ddamcaniaeth gystadleuol ynghylch tarddiad yr enw Caerdydd neu Cardiff yn Saesneg. Ceir ansicrwydd o ran tarddiad “Caerdydd” – mae “Caer” yn golygu lle cadarn wedi’i amddiffyn yn dda neu “gastell”, ond nid yw’n glir beth y mae “Dydd” yn cyfeirio ato yn y cyd-destun hwn. Mae rhai yn credu bod “Dydd” neu “Diff” yn gymathiad o “Taf”, yr afon sy’n llifo heibio Castell Caerdydd. Os felly, byddai “Caerdydd” yn golygu “y gaer ar afon Taf”. Mae damcaniaeth arall yn honni bod yna gysylltiad ag Aulus Didius Gallus, a oedd yn llywodraethwr Rhufeinig yn y rhanbarth ar adeg sefydlu’r gaer. Efallai bod yr enw wedi tarddu fel Caer Didius.

Defnyddiwyd Castell Caerdydd fel lloches bomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Tarddiad Rhufeinig
Saif Caerdydd wrth wraidd tair afon, afon Taf, afon Trelái ac afon Rhymni. Galluogodd ei lleoliad ei thrigolion cyntaf i reoli masnach a symudiad ar hyd yr afonydd hyn, gan roi pŵer iddynt dros ardal fawr. Y bobl gyntaf i fanteisio ar y lleoliad hwn oedd y Rhufeiniaid a sefydlodd gaer yma ar safle Castell Caerdydd tua 55-60OC. Bu’r gaer ddominyddol hon yn amddiffyn ei thrigolion nes tua 350-375OC pan gafodd ei gadael ar ddiwedd teyrnasiad y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Gadawodd y Llychlynwyr a’r Normaniaid eu marc ar Gaerdydd hefyd, ac yna yn 1091, dechreuodd Robert Fitzhamon waith ar orthwr y castell, sydd wedi bod wrth wraidd y ddinas byth ers hynny.

Caerdydd Ganoloesol
Mae’r castell canoloesol yn dyddio’n ôl i’r 11fed ganrif, pan goncrwyd Morgannwg gan y Normaniaid. Dechreuwyd ei adeiladu gan Wiliam Goncwerwr ar ei ffordd yn ôl o Dyddewi yn Sir Benfro yn 1081. Pren a ddefnyddiwyd i adeiladu’r castell yn wreiddiol. Yn y 12fed ganrif, cafodd ei adeiladu â cherrig gan Robert Consol, Dug Caerloyw.

Dechreuodd y dref ganoloesol fel tir caeedig eithaf bach wedi’i farcio gan Stryd Working a Stryd Womanby (Hummanbye) – mae’r ddau enw hyn yn gysylltiedig â Hen Norseg. Yn ail gyfnod ei datblygiad, ehangodd Caerdydd i’r de. Yna, amgaewyd y dref a’i hamddiffyn i’r dwyrain gan glawdd a ffos ac yn y pen draw gan borth carreg. I’r gorllewin, amddiffynnwyd y dref gan afon Taf droellog.
Yn y 15fed ganrif, dinistriwyd y dref gan fyddin Gymreig Owain Glyndŵr ac roedd y Castell yn adfail nes i Richard Beauchamp, Iarll Warwig, adfer yr amddiffynfeydd ac adeiladau’r castell gan gynnwys y tŵr wythonglog yn 1423.

Caerdydd Fodern
Mae’r rhan fwyaf o weddill y castell a’r waliau’n dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif, pan gyflogodd Ardalydd Bute William Burges i’w adfer, ei adnewyddu a’i ailadeiladu.

Yn 1794, agorodd meistri haearn Merthyr Tudful Gamlas Sir Morgannwg, a gysylltodd Merthyr Tudful â Chaerdydd er mwyn cludo haearn ac yn ddiweddarach, i gludo’r cyfeintiau mawr o lo i’w hallforio ar ôl agor Doc Gorllewin Bute yn 1839 gan yr Ail Ardalydd Bute. O ganlyniad i hyn, daeth Caerdydd yn borthladd mwyaf y byd ar gyfer allforio glo, a arweiniodd at Frenin Edward VII yn dyfarnu statws dinas i Gaerdydd yn 1905. Cyrhaeddodd y porthladd ei uchafbwynt yn 1913, gyda mwy na 10 miliwn tunnell yn pasio drwy’r porthladd.

Ar ôl i bethau arafu yn y 70au a’r 80au, bellach mae dociau Caerdydd a chanol y ddinas wedi’u hadfywio. Erbyn hyn, mae Bae Caerdydd yn ddatblygiad ffyniannus ar lan y dŵr, ac ar ôl adeiladu Stadiwm y Mileniwm yng nghanol y ddinas, mae Caerdydd wedi’i thrawsnewid i fod yn wir brifddinas Ewropeaidd.