Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd 2023

1 Gorff 2023 · Cyngor Caerdydd

Bydd piazza bwyd stryd, marchnad ffermwyr, a ffair gynhyrchwyr, gyda chrddoriaeth fyw, i gyd ar y fwydlen ym Mae Caerdydd yr haf hwn wrth i Ŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ddychwelyd.

Un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd a’r ŵyl bwyd a diod fwyaf am ddim yng Nghymru, mae’r ŵyl yn agor am hanner dydd ddydd Gwener 7 Gorffennaf ac yn cael ei chynnal trwy gydol y penwythnos.

Bydd mwy na chant o stondinwyr yn cynnig ystod ysblennydd o fwydydd hyfryd, gan gynnwys: hufen iâ artisanaidd, cawsiau, cigoedd, diodydd wedi’u bragu a’u distyllu yn Ffair y Cynhyrchwyr; cyffeithiau, danteithion melys, a chynnyrch a dyfir yn lleol yn y Farchnad Ffermwyr; tra bod y masnachwyr yn y Piazza Bwyd Stryd yn coginio popeth o fyrgyrs i fyns bao, ac o fôr-lawes i souvlaki.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd bob amser yn ddiwrnod allan gwych. Cyfle i brofi bwyd a blasau o bob cwr o’r byd, yn ogystal â nwyddau o ansawdd uchel a chynnyrch gan fasnachwyr Cymreig annibynnol.”

Bydd detholiad o berfformwyr llawr gwlad lleol a ffefrynnau gŵyl yn rhoi’r trac sain, gyda cherddoriaeth fyw yn cael ei pherfformio ar y llwyfan band drwy gydol y dydd ac ymhell i mewn i’r noson.

Bydd stondinau coch a gwyn nodedig y Farchnad Grefftau hefyd yn dychwelyd, gydag ystod eclectig o gelf a chrefft wedi’u gwneud â llaw, a’r cyfan wedi’u curadu gan CraftFolk.

Mae’r ŵyl am ddim i’w mynychu ac nid oes angen tocyn arnoch. Ond ewch i’r wefan am amodau mynediad.

Mae’r ŵyl yn rhedeg o ddydd Gwener 7- Sul 9 Gorffennaf.

Yr oriau agor yw:

Dydd Gwener:12.00 – 22.00 (Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21.00)

Dydd Sadwrn:11.00 – 22.00 (Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21.00)

Sul:11.00 – 19.00

BWYTA AC YFED