Beth wyt ti'n edrych am?
'2040' Ffilm a Chip ar yr Arddangosfa
Dyddiad(au)
28 Gorff 2022
Amseroedd
18:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dyma’ch cyfle i dreulio noson yn gweld yr arddangosfa a gwylio ffilm amgylcheddol bwerus ac ysbrydoledig 2040. Tra bo nifer o ffilmiau amgylcheddol yn canolbwyntio ar y niwed i’r blaned sy’n bygwth dyfodol dynolryw, mae arddull ffilm ddogfen 2040 yn trafod yr atebion.
Bydd sgwrs fer gan y curadur Kate Mortimer-Jones yn rhoi cipolwg ar waith yr Amgueddfa sy’n helpu i lywio ymchwil amgylcheddol heddiw.
Y cyfarwyddwr gwobrwyog Damon Gameau (That Sugar Film) sy’n mynd ar daith i ddeall sut olwg allai fod ar y byd erbyn 2040 petai ni’n mabwysiadu’r atebion presennol gorau i wella’n planed a’u cyflwyno nhw’n gyflym i ddefnydd eang.