Beth wyt ti'n edrych am?
A DOG’S TRAIL
Dyddiad(au)
08 Ebr 2022 - 05 Meh 2022
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r Dogs Trust yn dathlu ein canolfan ailgartrefu newydd sy’n dod i Gaerdydd yn 2022 gydag antur newydd gyffrous – A Dog’s Trail.
Nod y llwybr yw codi cyllid sylweddol tuag at ein gwaith er mwyn i ni allu parhau i ddarparu ein gwasanaethau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Ond rydym hefyd yn gwybod y bydd yn arddangosfa drawiadol a fydd yn dod â llawer o gymunedau at ei gilydd drwy greu ac arddangos cerfluniau ar hyd llwybr drwy’r ddinas. Bydd yr arddangosfa yn dangos Caerdydd fel lle i ymweld ag ef, ei garu a dinas i fyw, gweithio a chwarae ynddi.
Wrth i gymunedau ledled y byd barhau i ddelio ag effeithiau 2020, mae A Dog’s Trail yn ddigwyddiad arbennig a fydd yn hybu iechyd a lles, yn dod â busnesau a chymunedau at ei gilydd ac yn helpu i hybu’r economi ranbarthol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud i hyn ddigwydd. Mae A Dog’s Trail yn llwybr celf cyhoeddus arbennig, am ddim a fydd yn ymlwybro trwy ddinas Caerdydd yn nhymor y gwanwyn 2022. Am 10 wythnos bydd strydoedd y ddinas, Bae Caerdydd a’r parciau yn dod yn gartref i gyfres o gerfluniau Snoopy wedi’u haddurno’n gain, pob un wedi’i gynllunio gan artistiaid, dylunwyr a darlunwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – rhai’n ffefrynnau adnabyddus a rhai’n dalent newydd.
Caiff pob cerflun ei noddi gan fusnes neu unigolyn a bydd ganddo ei hanes ei hun i’w adrodd; bydd llawer yn dangos cyfoeth talent artistig Caerdydd, wrth ddathlu’r wefr, y diwylliant a’r creadigrwydd sydd gan y ddinas i’w cynnig. Bydd y llwybr celf trawiadol hwn yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan y Dogs Trust mewn cydweithrediad â Wild in Art, cynhyrchydd creadigol blaenllaw digwyddiadau celf gyhoeddus arbennig, a Peanuts, perchnogion Snoopy. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd.