Neidio i'r prif gynnwys

A-HA

Dyddiad(au)

05 Gorff 2022

Amseroedd

17:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

BYDD CEWRI POP NORWY YR OLAF I BERFFORMIO AR Y LLWYFAN DDYDD MAWRTH 5 GORFFENNAF!
Bydd y band synth-pop o Norwy, A-ha yn ymuno â’r rhestr eiconig o berfformwyr a gadarnhawyd i ymddangos yng Nghastell Caerdydd yr haf hwn.
Wedi’i sefydlu gan Paul Waaktaar-Savoy, Magne Furuholmen, a Morten Harket, daeth A-ha i enwogrwydd yng nghanol y 1980au a chael eu llwyddiant mwyaf gyda’u albwm gyntaf ‘Hunting High and Low’ ym 1985. Mae eu tiwn anhygoel o heintus ‘Take on Me’ yn dal i gael ei ystyried yn un o’r caneuon pop mwyaf a gyfansoddwyd erioed.
Ar ddiwedd mis Hydref 2019, dechreuodd A-ha ar daith fyd-eang, gan chwarae eu halbwm cyntaf yn llawn. Ond oherwydd y digwyddiadau digynsail a ddilynodd, ar ôl perfformio yn Auckland, Seland Newydd ym mis Mawrth 2020, roedd y pandemig yn golygu y bu’n rhaid gohirio’r 29 dyddiad arall.
Nawr, yn 2022, mae A-ha yn ail-gydio ynddi. Maen nhw wedi ychwanegu sioeau newydd yn America, Norwy, Sbaen a’r Deyrnas Gyfunol – lle bydd A-ha yn brif act yng Nghastell Caerdydd Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022.