Beth wyt ti'n edrych am?
Al Stewart
Dyddiad(au)
30 Hyd 2022
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ers taith ddiwethaf Al o amgylch y gwledydd hyn yn hydref 2019 gyda’i fand The Empty Pockets, am y rhan fwyaf o 2020 bu rhaid iddo gamu i’r naill ochr oherwydd pandemig Covid-19. Ar gyfer ei daith fawr gyntaf ers hynny mae wedi penderfynu gwahodd yr un offerynwyr yn ôl a oedd ar ei daith yn 2019. Unwaith eto, bydd y sacsoffonydd Marc Macisso yn ymuno ag Al a’r Pockets. Bydd yn chwarae ei hen ffefrynnau, Year of the Cat, Time Passages, On the Border, Nostradamus a Roads to Moscow ynghyd â detholiadau o’i gatalog eang.
Mae’r canwr-gyfansoddwr a anwyd yn yr Alban wedi rhyddhau bron i 20 o recordiau personol a phwerus o ran geiriau yn cynnwys cerddorion cefndir gwych (Jimmy Page, Phil Collins, Richard Thompson, Peter White ac ati). Rhyddhawyd ei lwyddiannau platinwm mwyaf, “Year of the Cat” a “Time Passages” ym 1976 a 1978 yn y drefn honno. Mae wedi cael sawl sengl yn yr 20 uchaf, gan gynnwys y teitlau a grybwyllir uchod, yn ogystal ag “On the Border” a “Song On The Radio”.
Yng Ngeiriau Al ei hun: “Dim ond canwr gwerin ydw i sydd â diddordeb mewn hanes a gwin a fu’n lwcus gyda rhai recordiau poblogaidd! Mae mor syml â hynny. Roeddwn bob amser yn ffan enfawr o gerddoriaeth ac yn wreiddiol, roeddwn am fod yn Brian Jones ac yna’n Bob Dylan, ond roedd y ddwy swydd honno wedi eu cymryd eisoes. Ac mewn sawl ffordd, rwy’n dal i fod yr un trwbadŵr ag yr o’n i nôl ym 1965. Rwy’n dal i gael cic allan o glywed y Zombies, Hendrix neu They Might be Giants ar y radio.”