Beth wyt ti'n edrych am?
All I Want For Christmas Is Musicals
Dyddiad(au)
06 Rhag 2024 - 21 Rhag 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Byddwn yn cyflwyno clasuron a ffefrynnau’r ŵyl mewn arddull chwaethus a syml y West End fis Rhagfyr yma, gyda chyngerdd Nadolig arbennig sy’n serennu cantorion blaenllaw’r y byd theatr gerdd.
Dewch i fwynhau noson hudolus o adloniant gyda Siwan Henderson a Steffan Hughes sy’n adnabyddus fel aelodau o Welsh of the West End, a Laura Dawkes, a fu’n chwarae rhan Anna yn sioe gerdd Frozen yn y West End yn ddiweddar. Gyda chyfeiliant piano gan David George Harrington, sydd wedi cydweithio ag enwogion gan gynnwys Katherine Jenkins a Kylie Minogue.
O alawon twymgalon a llawen i ganeuon poblogaidd o’r sioeau cerdd (a digon o hwyl yr ŵyl), ymunwch â ni yn ein theatr Cabaret clyd i fwynhau Nadolig cerddorol a llawen iawn.