Beth wyt ti'n edrych am?
Theatr Awyr Agored: As You Like It
Dyddiad(au)
10 Awst 2022
Amseroedd
19:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae The Lord Chamberlain’s Men – sydd â hanes yn ymestyn yn ôl i William Shakespeare ei hun – yn eich gwahodd i ymuno â nhw yr haf hwn ar gyfer y comedi disglair, As You Like It. Mae un o gwmnïau theatr teithiol gorau’r DU yn cyflwyno’r ddrama wych hon fel y gwelodd Shakespeare hi am y tro cyntaf – yn yr awyr agored, gyda chast gwrywaidd a gyda gwisgoedd, cerddoriaeth a dawns Elisabethaidd.
“Dim ond gwallgofrwydd yw cariad!”
Ar wahân i’w gilydd, mae Rosalind a’i ffrind annwyl Celia, y nobl Orlando, a’r gorchfygedig Uchel Ddug a’i lyswyr yn cael eu halltudio ac yn creu bywydau newydd i’w hunain yn Fforest Arden. Yn rhydd o gyfyngiadau eu bywydau blaenorol, mae cariadon yn cystadlu, ffyliaid yn ffeitio, bondiau teuluol yn cael eu herio, a phawb yn ymryson â’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn driw i chi’ch hun.
“Mae’r ffŵl yn meddwl ei fod yn ddoeth, ond mae’r gŵr doeth yn gwybod ei fod yn ffŵl.”
Yn eu halltudiaeth, maent yn gorfoleddi ac mae gwir gariad a gwir hunaniaeth yn dod i glawr yn y goedwig. Bydd y giamocs gwledig a’r gerddoriaeth, y chwerthin, y dryswch traws-wisgo a’r holl ymgodymu yn siŵr o ddod â gwên i’r wyneb.
“Mae’r byd i gyd yn llwyfan!”
Dewch â chadair a phicnic yn barod i gael eich diddanu a’ch cludo yn ôl drwy amser. Cadwch le yn gynnar i osgoi cael eich siomi!
Dilys | Rhagorol | Hudol