Beth wyt ti'n edrych am?
Battlescar: Punk Was Invented By Girls
Dyddiad(au)
25 Med 2023 - 05 Tach 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Cyfres ffilm VR wedi’i hanimeiddio mewn tair rhan lle byddwch chi’n plymio i mewn i fyd pync dau berson ifanc yn eu harddegau ar ffo sy’n byw yn Efrog Newydd ar ddiwedd yr 1970au.
Dewch i gwrdd â Lupe, merch Puerto Ricaidd-Americanaidd 16 oed, wedi’i lleisio gan Rosario Dawson, a Debbie, rebel sydd â chefndir dirgel. Mae angen cartref ar Lupe, mae Debbie eisiau rhywun sy’n ei deall, a gyda’n gilydd maen nhw’n ffurfio band pync ac yn mwynhau’r ddinas.
Mae’r ddrama yma am dyfu i fyny yn creu naws egni pync-roc Efrog Newydd – cyflym a chaled ac yn llawn ideoleg gwrth-awdurdodaidd, negeseuon gwleidyddol a gwrthryfel gan yr ifanc.
I ddathlu 5 mlynedd ers ei ryddhau, caiff Battlescar ei gyflwyno fel profiad gosodwaith gwreiddiol, gan ail-greu ymddangosiad a theimlad bar pync yn ne-ddwyrain Manhattan.
Yn dilyn y profiad VR, byddwch chi hefyd yn gallu ymweld â Wasteland of my Fathers – arddangosfa yn archwilio’r byd pync yng Nghymru, wedi’i churadu gan David Taylor/Hanes Miwsig Caerdydd.
Plymiwch i mewn. Neu peidiwch. Does dim ots gyda ni.