Neidio i'r prif gynnwys

Beautiful – The Carole King Musical

Dyddiad(au)

24 Mai 2022 - 28 Mai 2022

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae cynhyrchiad newydd sbon o sioe arobryn y West End a Broadway, Beautiful – The Carole King Musical, yn dod i Theatr Newydd Caerdydd

Ymhell cyn iddi fod yn Carole King, un o fawrion cerddoriaeth ar frig y siartiau, roedd hi’n ferch gyffredin gyda thalent ryfeddol. Mae Beautiful yn adrodd stori wir ysbrydoledig King wrth iddi ddod yn seren, o fod yn rhan o dîm cyfansoddi caneuon poblogaidd gyda’i gŵr Gerry Goffin, i’w pherthynas â’i chyd-gyfansoddwyr a’i ffrindiau gorau Cynthia Weil a Barry Mann, i ddod yn un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus mewn hanes cerddoriaeth boblogaidd.

Ar hyd y ffordd, cyfansoddodd y trac sain i genhedlaeth gyfan, gyda chlasuron di-rif fel (You Make Me Feel Like) A Natural Woman, Take Good Care of My Baby, You’ve Got a Friend, So Far Away, It Might as Well Rain Until September, Up on the Roof, a The Locomotion.

Llyfr gan Douglas McGrath

Geiriau a Cherddoriaeth gan Gerry Goffin a Carole King, Barry Mann a Cynthia Weil

Cerddoriaeth drwy drefniant gyda SONY/ATV Music Publishing

Cynhyrchwyd yn wreiddiol ar Broadway ac yn Llundain gan Paul Blake, SONY/ATV Music Publishing a Mike Bosner