Beth wyt ti'n edrych am?
Ben Portsmouth – This Is Elvis
Dyddiad(au)
27 Med 2023
Amseroedd
19:30 - 21:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ben Portsmouth yn dod â’i deyrnged anhygoel i Frenin Roc a Rôl
Mae Ben, o Berkshire, yn gantor, cyfansoddwr, cerddor ac actor (Autopsy: The Last Hours of Elvis 2014 ac Elvis: Are You Lonesome Tonight 2020) ac yn fwyaf arbennig yn artist teyrnged Elvis sy’n enwog yn rhyngwladol.
Roedd Ben wrth ei fodd ag Elvis o oedran cynnar. Roedd ei dad yn ffan brwd o Elvis a magwyd Ben ar ddeiet o ganeuon Elvis. Wedi hogi ei ddawn gerddorol dechreuodd Ben ar ei daith fel Artist Teyrnged Elvis yn 2005 pan ffurfiodd y Taking Care of Elvis Band.
Ar ôl ennill nifer o wobrau o fri, ym mis Awst 2012 enillodd Ben y Gystadleuaeth ‘Artist Teyrnged Gorau Oll i Elvis’ ym Memphis, lle coronwyd Ben fel “Artist Teyrnged Gorau’r Byd i Elvis”, yr artist cyntaf o’r tu allan i’r UDA i ennill y teitl nodedig hwn.
Wrth ddathlu bywyd y diddanwr eiconig ac adrodd hanes y Brenin drwy’r sioe, byddant yn mynd â chi ar daith o atgofion gyda set ysgubol o nifer o ganeuon mwyaf poblogaidd Elvis o bob math megis y 1950au, yr eiconig ’68 Comeback Special, a ffefryn personol Ben, cyngherddau Vegas y 1970au.
Fel gitarydd amryddawn, gall Ben newid yn ddi-dor o roc a rôl, gospel, a soul a bydd digonedd o newidiadau gwisgoedd gwych a llawer o ryngweithio gyda’r gynulleidfa ar hyd y ffordd!
Gyda’i edrychiad, ei swyn a’i garisma, mae Ben yn parhau i ryfeddu cynulleidfaoedd gyda’i bresenoldeb llwyfan, gyda ffans yn hawlio’n fyd-eang taw ‘dyma’r agosaf y byddwch chi byth yn cyrraedd y Brenin ei hun’. Beth yn fwy allech chi ei eisiau!? Dewch i deimlo ysbryd Elvis, a pharatoi eich hun i gael eich gwir ryfeddu gan noson ysblennydd!