Neidio i'r prif gynnwys

Big, Stupid, Queer Comedy Quiz

Dyddiad(au)

05 Tach 2023

Amseroedd

15:30 - 17:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymunwch â Linus Karp a Joseph Martin am brynhawn gwirion, cwiar yn gwneud cwis diwylliant pop gwirion, cwiar.

Bydd gwobrau, raffl, comedi a llawer o hwyl. Mae’r cwis unigryw yma wedi bod yn gwerthu allan yn Llundain a Manceinion – a hyd yn oed wedi cael sylw gan newyddion y BBC!

Wedi’i greu gan gwmni Awkward Productions, y ddeuawd y tu ôl i Diana: The Untold and Untrue Story a How to Live a Jellicle Life: Life Lessons from the 2019 Hit Movie Musical Cats.

*Chwech yw uchafswm y chwaraewyr mewn tîm cwis

*Dim twyllo (fydd dim llawer o bwynt trio gwglo’r atebion yma beth bynnag…)