Beth wyt ti'n edrych am?
Bluey’s Big Play
Dyddiad(au)
13 Maw 2024 - 17 Maw 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Pan mae Dad yn teimlo fel ymlacio ar bnawn dydd Sul, mae cynlluniau eraill gan Bluey a Bingo! Ymunwch â nhw wrth iddyn nhw ddefnyddio eu gemau a’u deallusrwydd i wneud i Dad godi oddi ar y sach eistedd.
Addasiad theatraidd newydd sbon o’r gyfres deledu arobryn i blant sydd wedi ennill gwobr Emmy yw Bluey’s Big Play, sydd â stori wreiddiol gan greawdwr Bluey, Joe Brumm, a cherddoriaeth newydd gan gyfansoddwr Bluey, Joff Bush.
Ymunwch â’r teulu Heeler yn eu sioe theatr fyw gyntaf sydd wedi’i chreu yn arbennig i chi, gyda phypedau rhagorol. Dyma Bluey fel erioed o’r blaen, yn fyw ar y llwyfan yn y premiere yma yn y DU.