Beth wyt ti'n edrych am?
Bonnie & Clyde
Dyddiad(au)
26 Maw 2024 - 30 Maw 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ydych chi’n barod i greu ychydig o hafoc?
Mae enillydd y Sioe Gerdd Newydd Orau (What’sOnStage Awards 2023) a’r llwyddiant ysgubol Bonnie & Clyde yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl dau dymor afreolus yn y West End yn Llundain.
Daeth dau blentyn o dref fach yng nghanol unman yn arwyr mwyaf America. Roedden nhw’n dyheu am antur – a’i gilydd. Eu henwau oedd Bonnie a Clyde. Yn ddiofn, yn ddigywilydd ac yn ddeniadol, mae gan y cynhyrchiad arobryn yma nifer mawr o ddilynwyr, yn debyg i’r pâr drwgenwog eu hunain, a nawr maen nhw’n dod i ysgubo i mewn i’ch dinas.
Darganfyddwch y stori wefreiddiol am gariad, antur a throsedd a hoeliodd sylw cenedl gyfan.