Beth wyt ti'n edrych am?
Buffy Revamped
Dyddiad(au)
24 Maw 2024
Amseroedd
19:30 - 20:45
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Saith deg munud. Saith cyfres. Un Spike.
Mae’r perl bywiog yma yn cyflwyno’r 144 o benodau o’r sioe deledu boblogaidd o’r 90au Buffy the Vampire Slayer drwy lygaid yr un person sy’n ei wybod yn llwyr… Spike. Mae Buffy Revamped yn teithio’r DU yr hydref yma yn dilyn ei berfformiad cyntaf arobryn yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a dwy daith genedlaethol a werthodd allan.
Yn ddoniol, yn ddychanol ac yn llawn cyfeiriadau at ddiwylliant-bop y 90au, dyma’r parodi perffaith ar gyfer arbenigwyr ar Buffy a’r rhai na gofrestrodd yn Sunnydale High erioed.
Crëwyd gan y digrifwr Brendan Murphy yr enillodd ei sioe ddiwethaf FRIEND (The One with Gunther) y Ddrama Orau yng ngwobrau comedi World Wide.