Beth wyt ti'n edrych am?
Bwyd a Diod Alpaidd
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Oriau Agor
Dydd Llun – ddydd Gwener: 12:00 – 18:00
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 11:00 – 18:00
Os ydych chi yng Nghaerdydd y Nadolig hwn ac awydd danteithion blasus i’ch cynhesu, yna ewch draw i ardal fwyd a diod Nadoligaidd Alpine ar Stryd y Castell.
Cymerwch sedd yn eich cwt sgïo Alpine eich hun, neu wrth fwrdd picnic, ac archebwch o blith amrywiaeth o stondinau gan ddefnyddio app Yoello. Yna eisteddwch, ymlaciwch, a daw’r bwyd a’r diodydd yn syth at eich bwrdd.
Ar frys? Mae’r stondinau hefyd yn cynnig bwyd tecawê felly, os allwch chi dim aros i fynd yn ôl i’r siopau – neu os ydych chi eisiau dianc rhag y prysurdeb a mynd am dro o amgylch Parc Bute, maen nhw yn y lleoliad perffaith i fachu tamaid i’w fwyta neu ddiod boeth.
Nodyn:
Gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig fydd yn yr ardal eistedd Bwyd a Diod Alpaidd, rhaid archebu pob bwyd a diod drwy app Yoello, ni chaniateir dod â bwyd a diod o’r tu allan i’w bwyta yn yr ardal eistedd
Ni fydd alcohol yn cael ei weini yn yr ardal o nos Wener 4 Rhagfyr, ond gallwch ddal i fwynhau amrywiaeth o ddiodydd meddal poeth ac oer.
Bydd y capasiti mwyaf posibl fesul bwrdd yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar y pryd. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen ddiogelwch.
Oherwydd capasiti cyfyngedig, mae byrddau ar gael am hyd at awr ar y mwyaf er mwyn sicrhau y gall pawb fwynhau’r ardal.
Stondinau bwyd a diod
Cwestiynau Cyffredin
Nid oes unrhyw archebion ymlaen llaw, felly pryd bynnag y byddwch chi’n barod, bachwch eich cartref neu’ch swigen a bant â chi i Stryd y Castell.
Ar adegau prysur, efallai y bydd angen i chi giwio ond pan ddaw eich tro, fe fydd tywysydd yn eich cyfeirio chi a’ch criw at un o’r byrddau gwag. Mae’r cyfleusterau’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae’r ardal yn wastad a gellir symud cadeiriau o fyrddau i gynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio (sylwer nad oes cadeiriau uchel ar gael).
Bydd seddi dan do cyfyngedig y tu mewn i’ch cwt sgïo Alpaidd clyd. Am resymau cyflenwi ynni ac ynni nid oes gwresogyddion ar y safle. Os yw’n ddiwrnod oerach beth am ddod â siôl neu flanced i ymlacio â hi? Ni allwn eu darparu oherwydd risg o halogiad.
Bydd, bydd cyfleusterau toiled ar gael.
Mae croeso i gŵn yn ardal y caffi ond rhaid iddynt aros yn agos at eu perchnogion a chael eu cadw ar dennyn. Sylwch na fydd yn bosibl darparu bowlenni dŵr, oherwydd pryderon hylendid.
Bydd angen i chi archebu trwy’ch ffôn symudol. I gychwyn eich archeb, chwiliwch am arwydd y cod QR ar eich bwrdd. Agorwch gamera eich ffôn a sganiwch y cod – neu cliciwch yma a gallwch archebu yn y ffordd hon.
Ar ôl i chi ddewis yr hyn yr hoffech ei archebu, byddwch yn talu gyda cherdyn credyd / debyd.
Bydd diheintydd dwylo yn cael ei ddarparu hefyd a bydd staff glanhau wedi’u lleoli’n barhaol ar y safle i gadw’r ardal yn lân ac yn glir.
Mae’r cytiau sgïo wedi’u gosod allan gyda phellter cymdeithasol mewn golwg ond cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich pellter cymdeithasol eich hun.
Oes. Bydd botwm Trac a Olrhain yn ymddangos pan fyddwch chi’n defnyddio’r ap neu’n sganio’r tabl QR i gael mynediad at Yoello. Bydd angen i gwsmeriaid glicio ar hynny a llenwi’r ffurflen fer cyn iddynt wneud eu harcheb gyntaf. Bydd hyn yn ein galluogi i gysylltu â chi a’ch grŵp ynghylch unrhyw ganlyniadau COVID-19 cadarnhaol a allai effeithio arnoch chi.