Neidio i'r prif gynnwys

Caba-Cray! gyda Crayola the Queen

Dyddiad(au)

07 Hyd 2023

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Brenhines Lliw Llundain yn perfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf gyda Caba-Cray! – ei sioe cabaret Un Crayon sy’n llawn caneuon gwirion a jôcs.

Gallwch chi ddisgwyl parodïau, caneuon pop a sioeau cerdd, gemau gwirion a thynnu coes. Gan gyflwyno drag Prydeinig clasurol gyda dylanwad Americanaidd newydd, mae’r Frenhines yma yn gwybod sut i ddiddanu!

Artist drag, perfformiwr theatr, canwr, digrifwr ac MC yw Crayola. P’un a yw’n cyflwyno un o’i sioeau cabaret cwiar drygionus, yn cadw popeth yn broffesiynol ar gyfer digwyddiadau corfforaethol ar-lein, neu’n ysbrydoli pobl ifanc a phobl hŷn gyda sioeau plant a gweithdai addysgol, mae Crayola bob amser yn dwymgalon ac yn ddoniol!