Neidio i'r prif gynnwys

Camp King: Draguation

Dyddiad(au)

30 Med 2023

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gwahoddiad agored i bawb ymuno â’r noson dragtastig yma. Mae ein grŵp o fechgyn wedi bod yn gweithio’n galed ac maen nhw’n barod am noson i’r brenin!

Byddwn ni’n gweld sêr y dyfodol ar lwyfan Cabaret ochr yn ochr â’u mentoriaid gwych Justin Drag, Jordropper a Leonardo DiFlaprihoe a gwesteion arbennig o’r gymuned brenhinoedd.

Bydd canu byw, meimio, comedi, actau rhyfedd a rhyfeddol, cywilyddus ac anhygoel, a rhai ensyniadau hefyd. Byddwn ni’n dangos i chi bod llawer o ffyrdd gwahanol o fod yn frenin.

Ar ôl cwblhau cwrs brenin drag dwys, gall y sêr newydd flodeuo a byddwn ni’n dathlu popeth yn ymwneud â brenhinoedd fel nunlle arall yng Nghymru.