Neidio i'r prif gynnwys

Marchnad Nadolig Caerdydd 2023

Dyddiad(au)

09 Tach 2023 - 23 Rhag 2023

Amseroedd

10:00 - 18:00

Lleoliad

Canol y Ddinas Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae ein stondinau pren sydd wedi’u haddurno’n hyfryd, sydd yn yr awyr agored ar Heol Eglwys Ioan, Stryd Working, Heol y Drindod a Heol Hills, yn dychwelyd am Farchnad Nadolig gyffrous ac eclectig arall o ddydd Iau 9 Tachwedd tan ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr.

Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu llwyfan i artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod arddangos a gwerthu eu gwaith eithriadol yn uniongyrchol i’r cyhoedd.  Yn wahanol i’r marchnadoedd Nadolig y gallwch ddod o hyd iddynt mewn dinasoedd eraill, pan fyddwch yn ymweld â Chaerdydd, gallwch fod yn sicr y byddwch yn prynu gwaith gwreiddiol gan bob un o’n gwneuthurwyr talentog, ynghyd ag amrywiaeth o gynhyrchwyr bwyd ac alcohol tymhorol, i greu awyrgylch Nadolig bywiog.   Gallwch hefyd sgwrsio â nhw am eu gwaith, y broses greu, a thrafod comisiynau os dymunwch.

Wrth i ni groesawu’r arddangoswyr sy’n dychwelyd i’r farchnad, nid oes yr un ohonynt yn llaesu dwylo.  Gan mai eu crefft yw eu busnes hefyd, maen nhw bob amser wrthi’n creu gwaith newydd gan sicrhau bod eu stondinau bob amser yn edrych yn ffres ac yn arloesol. Byddwch hefyd yn gweld llawer o wynebau newydd yn rhoi cynnig ar y farchnad gyda’u gwaith eu hunain yn ein Stondinau Blasu, sydd yn Heol y Drindod.

Gellir gweld rhestr gynhwysfawr o’r holl gyfranogwyr ar wefan y Farchnad gan gynnwys eu dyddiadau masnachu, gan nad yw pawb yn cymryd rhan yn y digwyddiad cyfan.

PRYD MAE MARCHNAD NADOLIG CAERDYDD?

Eleni, bydd ein Marchnad Nadolig ar agor o ddydd Iau 9 Tachwedd 2023 tan ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr 2023.

PRYD MAE STONDINAU MARCHNAD NADOLIG CAERDYDD AR AGOR?

Eleni, bydd amseroedd masnachu’r Farchnad Nadolig rhwng 10:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a rhwng 10:00 a 17:00 ar ddydd Sul.

BLE MAE MARCHNAD NADOLIG CAERDYDD?

Eleni, bydd stondinau’r Farchnad Nadolig ar hyd Heol Eglwys Ioan, Stryd Working, Heol y Drindod a’r Ais – pob un yn ardal siopa i gerddwyr yng nghanol dinas Caerdydd.

Eleni, bydd stondinau’r Farchnad Nadolig ar hyd Heol Eglwys Ioan, Stryd Working, Heol y Drindod a’r Ais – pob un yn ardal siopa i gerddwyr yng nghanol dinas Caerdydd.

Wedi’i sefydlu ers tua 30 mlynedd, caiff Marchnad Nadolig Caerdydd ei threfnu gan Craft*Folk.

Mae Craft*Folk wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan i artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod arddangos a gwerthu eu gwaith eithriadol yn uniongyrchol i’r cyhoedd.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae’n bwysicach nag erioed gwarchod treftadaeth celf a chrefft, er mwyn sicrhau bod lle bob amser mewn manwerthu ar gyfer gwreiddioldeb ac amrywiaeth.

Bydd rhestr gynhwysfawr o’r holl gyfranogwyr yn cael ei chyhoeddi yn nes at ddechrau’r farchnad gan gynnwys eu dyddiadau masnachu, a rhif eu stondinau, gan nad yw pawb yn cymryd rhan yn y digwyddiad cyfan.

 

Dysgwch fwy am bopeth sy’n digwydd yng Nghaerdydd adeg y Nadolig eleni.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.