Neidio i'r prif gynnwys

Cardiff Classical Concert Series

Dyddiad(au)

22 Mai 2022

Lleoliad

Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Tomáš Hanus fydd yn arwain Cerddorfa WNO yn ei hail gyngerdd yng nghyfres Glasurol Caerdydd gyda dychweliad Ma Vlast gan Smetana. Y tro hwn, mewn archwiliad o gefn gwlad Tsiec a’i phobl, mae’r rhaglen yn agor gyda From Bohemia’s Woods and Fields, y gerdd symffonig a gyfansoddwyd yn wreiddiol i ddod â’r cylch epig i ben.

Mae Concerto Piano Rhif 2 Shostakovich yn cael ei hystyried fel un o’i weithiau mwyaf poblogaidd. Yn ogystal â’r Andante hoffus, ond hynod ddwys – un o’r alawon mwyaf adnabyddus yn y repertoire – y naill ochr i’r gwaith mae eiliadau bywiog sy’n llawn steil a hwyl.

Mae Symffoni Rhif 3 (Eroica) Beethoven yn cofio cyfnod canol y cyfansoddwr ac mae wedi dod yn un o’i weithiau enwocaf. Yn gyfystyr â dechrau’r oes Ramantaidd, mae ei ddeinameg a’i egni yn cyfleu themâu brwydr a buddugoliaeth.

#WNOorchestra