Beth wyt ti'n edrych am?
Cardiff Queer Comedy WIP Season: Lorna Rose Treen & June Tuesday
Dyddiad(au)
12 Meh 2025
Amseroedd
19:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Am y bedwaredd flynedd yn olynol, mae’r Queer Emporium WIP Season yn dychwelyd, gyda nifer o ddigrifwyr a chomediwyr cwiar yn dod a’i ‘preview’ o’i sioeau llawn! Am y trydedd sioe, dewch i weld gwaith newydd gan Lorna Rose Treen a June Tuesday!
Lorna Rose Treen
Mae Lorna Rose Treen yn gomedïwr, ysgrifennydd ac actor o Redditch, sydd yn fyw yn Llundain. Ar ôl debut llwyddiannus yn Ŵyl Ffrinj Caeredin yn 2023 gyda’i sioe, ‘Skin Pigeon’, symudodd y sioe i Soho Theatre. Creodd hi sioe ‘Time of the Week’ am Radio 4, ac mae hefyd yn serennu ynddo. Medrwch ei chlywed hefyd ar Jazz Emu’s ‘The Sound of Us’ (BBC Radio 4) and Katie Wix’s ‘Nora Meadows Week of Wellness’ (BBC Radio 4). Mae wedi serennu yn sioeau megis ‘Goblin Solutions’ (Channel 4), ‘The Emily Atack Show’ (ITV) a ‘BBC Three’s New Comedy Awards’.
June Tuesday
Mae June Helen Tuesday yn ‘toxic trans mess’. Dydy ei rhieni ddim yn ei derbyn, mae’r ffrindiau hi yn y carchar a dyw hi ddim yn y fenyw oedd hi eisiau fod.
Beth yw WIP?
Mae WIP neu ‘work-in-progress’, yn sioe mae digrifwyr yn wneud i brofi deunydd newydd, cyn cyflwyno sioe terfynnol i gynulleidfaoedd ehangach.
Beth yw WIP Season?
Pob dydd Iau, o ddiwedd Mai a thrwy gydol Mehefin, bydd dau gomedïwr o’r gymuned LHDTC+ yn dod a chipolwg o’i sioe derfynol i’r Queer Emporium! Medrwch brynu tocynnau am bob digwyddiadau yn unigol, neu bas sy’n caniatáu mynediad i bob digwyddiad am bris rhatach!