Neidio i'r prif gynnwys

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd | Noson yn y Pictiwrs

Dyddiad(au)

01 Rhag 2023

Amseroedd

19:30 - 22:00

Lleoliad

Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dyma Gerddorfa Ffilharmonig Caeryddd yn dod yn ei hôl i Neuadd Dewi Sant i gyflwyno ei chyngerdd blynyddol, aruthrol o boblogaidd, cerddoriaeth o’r pictiwrs. Yn y dewis eleni mae’r archarwyr Batman, Superman a Rey o Star Wars. Awn ar daith yng nghwmni Jason a’r Argonawtiaid chwedlonol ar drywydd y Cnu Euraid.

A chawn hefyd y ddrama gerdd glasurol gan Rodgers a Hammerstein, The King and I, ac at hynny un o’r comedïau ffilm digrifaf oll Airplane! A rhoi tro am ryw Bates Motel a’i holl gyfrinachau cudd!! Mae yma hefyd deyrnged i’r diweddar anfarwol Burt Bacharach sef y brif thema o Arthur a Dudley Moore a Liza Minelli yn serennu ynddi.

Cofiwch ddod aton ni i noson anfarwol o gerddoriaeth dan gamp!