Beth wyt ti'n edrych am?
CGG BBC | Boulez yn 100
Dyddiad(au)
06 Maw 2025
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
CYFOES | DYLANWADOL | GOLEUEDIG
A hithau’n ben-blwydd Pierre Boulez yn 100 oed, mae’r arweinydd Daniel Cohen yn ymuno â BBC NOW am noson o berlau’r 20fed Ganrif, gan ddechrau gyda Livres pour cordes gan Boulez ei hun. Mae harddwch a dyfnder anfesuradwy yn rhedeg yn ddwfn yn y gwaith onglog a darniog hwn, sy’n hyfryd o delynegol drwyddo.
Bydd Ava Bahari yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW yng ngwaith enwocaf Berg, a’r un sy’n cael ei berfformio amlaf, ei Goncerto pwerus i’r Ffidil, cyn i Brif Ffliwtydd BBC NOW, Matthew Featherstone, gamu i safle’r unawdydd ar gyfer Memoriale Boulez, arddangosfa ddeinamig a meistrolgar o dechneg ffliwt estynedig. Ei gyn athro, a’i ddylanwad ysbrydoledig, Olivier Messiaen ddaw nesaf wrth i ni archwilio ei Les Offrandes oubliée ac rydyn ni’n profi cynnwrf cariad gwaharddedig yn ymgorfforiad cerddorol Wagner o ddrama, Tristan und Isolde.
Boulez Livres pour cordes
Berg Concerto i’r Ffidil
Boulez Memoriale
Messiaen Les Offrandes oubliées
Wagner Prelude und Liebestod o Tristan und Isolde
–
Daniel Cohen arweinydd
Ava Bahari ffidil
Matthew Featherstone ffliwt